CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cofio Hedd Wyn - Atgofion Cyfeillion a Detholiad o'i Gerddi

Y Lolfa

Cofio Hedd Wyn - Atgofion Cyfeillion a Detholiad o'i Gerddi

Pris arferol £14.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Robin Gwyndaf

ISBN: 9781784615314
Dyddiad Cyhoeddi: 22 Chwefror 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 245x170 mm, 408 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dyma gyfrol hardd 400 tudalen, llawn lluniau sy'n cynnwys atgofion cyfeillion Hedd Wyn, yn cynnwys Simon Jones, Cwm Cynllwyd, oedd gyda'r bardd ar faes y gad cyn iddo syrthio. Ceir hefyd ddetholiad o gerddi Hedd Wyn yn ogystal â cherddi gan eraill yn cofio'r bardd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2017.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Robin Gwyndaf yn fardd ac awdur toreithiog sydd wedi cyhoeddi dros 300 o erthyglau ar ddiwylliant gwerin Cymru, ac mae'i ddwsin o lyfrau yn cynnwys Chwedlau Gwerin Cymru (1989) a Teulu, Bro a Thelyn (1997). Mae hefyd wedi cyhoeddi barddoniaeth, traethodau ac wedi teithio'n eang gyda'i waith ac fel cynrychiolydd ar ran UNESCO. Daw'n wreiddiol o Langwm, Uwchaled ac mae bellach yn byw yn Llandaf, Caerdydd.