Awdur: Morgan Tomos
ISBN: 9781847710635
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 201x203 mm, 24 tudalen
Iaith: Cymraeg
Stori wreiddiol a lliwgar am helyntion Alun yr Arth. Y tro hwn mae'n creu llanast ar fuarth y fferm! Addas ar gyfer plant 3-5 oed.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Morgan Tomos, awdur ac arlunydd y gyfres, wedi ei hyfforddi fel animeiddiwr ac mae’n gweithio i’r Lolfa yn hyrwyddo llyfrau’r wasg. Mae wrth ei fodd yn ymweld ag ysgolion i siarad a chynnal gweithdai. Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon ond mae bellach yn byw yng Ngheredigion.
Gwybodaeth Bellach:
Alun yr Arth yn dwyn tractor
Mae’r Lolfa newydd ryddhau’r nawfed llyfr yng nghyfres Alun yr Arth - Alun yr Arth ar y Fferm. Mae’r gyfres llun a stori i blant 3-6 oed yn mynd o nerth i nerth, ac yn y stori hon mae Alun, yr arth bach direidus, yn casau ’molchi, felly mae’n dianc o’r bath ac yn rhedeg ar draws y caeau i’r fferm gyfagos. Mae wedyn yn cwrdd â nifer o anifeiliaid sydd am ymuno ag e ar y tractor coch.