CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cyfres Strach: Brecwast i Gath, Swper i Gi

Sonia Edwards

Cyfres Strach: Brecwast i Gath, Swper i Gi

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Sonia Edwards

ISBN: 9781848512146
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Hydref 2010
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 80 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma stori am hynt a helynt ci go arbennig, sef Bullmastiff. Mae'r arddull ychydig yn wahanol i'r arfer gan ein bod yn cael stori am fywyd o safbwynt y ci ei hun. Mae'r hiwmor yn byrlymu o'r dechrau hyd at y diwedd.

Bywgraffiad Awdur:
Daw’r Prif Lenor Sonia Edwards o Ynys Môn ac mae’n athrawes Gymraeg yn Llangefni. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau i oedolion a phlant yn eu plith Angel Penffordd ac Elain gan Wasg Gomer. Cyfrannodd hefyd at y gyfrol o farddoniaeth i blant, Byd Llawn Hud, a enillodd wobr Tir na n-Og yn 2005.
Gwybodaeth Bellach:
Feddylioch chi erioed sut fywyd sydd gan gi?

Wel, dyma’ch cyfle i ddatrys ambell ddirgelwch wrth ddilyn hynt a helynt Tecs, y Bullmastiff direidus. Mewn reiat o stori, mae’r ci mawr, boliog hwn yn cael ei hun i mewn i bob math o ddrygioni wrth iddo geisio deall arferion rhyfedd y bobl sydd o’i gwmpas. Ac yn waeth na dim, mae Modlan, y gath snobyddlyd, yn dal i fod yr un mor annymunol ag erioed! Tybed a fydd Tecs yn llwyddo i ganfod atebion i gwestiynau ac a fydd ei fywyd yn newid am byth ar ôl ei ymweliad â’r milfeddyg?! O! Mae bywyd yn gallu bod yn gymhleth weithiau . . .
yn enwedig i gi!

Stori hwyliog a fydd yn sicr o wneud i chi chwerthin yn uchel o’r dechrau i’r diwedd.