CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Cywydd

Donald Evans

Cyfres Sut i Greu: Sut i Greu Cywydd

Pris arferol £5.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Donald Evans

ISBN: 9781906396367
Dyddiad Cyhoeddi: 31 Mawrth 2011
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 210x149 mm, 120 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r ail gyfrol yn y gyfres Sut i Greu. Y tro hwn rhoir y cywydd, un o brif fesurau Cerdd Dafod, dan y chwyddwydr. Mae'r awdur, y Prifardd Donald Evans, yn trafod sawl agwedd ar y mesur pwysig a phoblogaidd hwn, gyda'r bwriad o ddadlennu rhai o gyfrinachau mwyaf y cywyddwr llwyddiannus. Dyma gyfrol fuddiol i ddarpar-gywyddwyr ac i gywyddwyr profiadol, y ddau fel ei gilydd.

Gwybodaeth Bellach:
Dyma’r ail gyfrol yn y gyfres ‘Sut i Greu’. Y tro hwn rhoir y cywydd, un o brif fesurau Cerdd Dafod, dan y chwyddwydr. Mae’r awdur, y Prifardd Donald Evans, yn trafod sawl agwedd ar y mesur pwysig a phoblogaidd hwn, gyda’r bwriad o ddadlennu rhai o gyfrinachau mwyaf y cywyddwr llwyddiannus. Ar ôl olrhain ‘Cefndir y Cywydd’ mae’n trafod ‘Corff y Cywydd’, a hynny dan dri phen, ‘Calon’, ‘Cyfansoddiad’, ‘Cywair’. Ceir wedyn ymdriniaeth â ‘Chymeriad y Cywydd’, sef gwahanol fathau o gywyddau o safbwynt thema neu bwnc. Ac mae’n cloi’r llyfr gyda phennod werthfawr a defnyddiol ar y broses o greu cywydd. Dyma gyfrol fuddiol i ddarpar-gywyddwyr ac i gywyddwyr profiadol, y ddau fel ei gilydd.