Cyfres y Melanai: Y Diffeithwch Du

Bethan Gwanas

Cyfres y Melanai: Y Diffeithwch Du

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Bethan Gwanas

ISBN: 9781784616526
Dyddiad Cyhoeddi: 11 Hydref 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae'r nofel yn olrhain hanes Efa, sy'n dywysoges ar y Melanai, ar ôl iddi hi a'i ffrindiau ddianc o'r Palas rhag iddi orfod lladd ei mam, y frenhines, yn dilyn traddodiad y wlad. Maen nhw wedi cyrraedd Y Diffeithwch Du sydd yn llawn peryglon ac yn cwrdd â chawr o'r enw Id, a nifer o anifeiliaid a sefyllfaoedd peryglus a heriol. Ail deitl mewn trioleg.

Bywgraffiad Awdur:
Awdur dros 30 o lyfrau i blant ac oedolion. Mae’n byw ger Dolgellau,
a phan na fydd yn ysgrifennu, mae'n beicio neu’n darllen, yn gwylio
ffilmiau neu'n gofalu am ei gwenyn mêl.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma’r ail nofel mewn trioleg, wedi ei hanelu at ddarllenwyr 12-15 oed Cyfnod Allweddol 3.
Stori sy’n codi pob math o themâu fel cyfeillgarwch, teyrngarwch a dial, yn ogystal ag ymdrin â phynciau sydd o ddiddordeb i oedolion ifanc fel cariad, cael hwyl, gwrthryfela, ac amheuon.