Manon Steffan Ros
Cyfres yr Onnen: Bwystfilod a Bwganod
Pris arferol
Pris gostyngol
£5.95
Pris Uned
/ per
Treth yn gynwysedig.
Cyfrif cludiant yn y man talu.
Awdur: Manon Steffan Ros
ISBN: 9781847712264
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Mehefin 2010
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 208 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae Hilda, Tom a Hywel yn dod at ei gilydd er mwyn helpu Teilo Siencyn, Prif Weinidog Cymru, i ddal bwystfilod fel y Leiac sy'n achosi anhrefn llwyr yn y wlad. Diolch byth fod gan Hywel hen lyfr o'r enw 'Bwystfilod a Bwganod'! Nofel arall gyffrous yng Nghyfres yr Onnen, ar gyfer plant 9 i 13 oed.
Bywgraffiad Awdur:
Daw Manon Steffan Ros o Riwlas yn wreiddiol ond bellach mae hi’n byw ym Mhennal ger Machynlleth. Mae hi’n awdures llawn amser ac yn fam i Efan a Geraint Lleu.
Gwybodaeth Bellach:
Manon Steffan Ros ar Drywydd Bwystfilod a Bwganod
Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rai cyffrous i Manon Steffan Ros. Cipiodd Trwy’r Tonnau wobr Tir na nOg yn Eisteddfod yr Urdd, roedd Fel Aderyn, ei nofel gyntaf i oedolion, ar restr hir Llyfr y Flwyddyn a’r wythnos hon mae Manon yn cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf i blant Bwystfilod a Bwganod.
Mae hon yn nofel gyffrous sy’n dilyn hynt a helynt Hilda, Tom a Hywel ar grwydr rhyfeddol i wynebu bwystfilod a bwganod ar draws Cymru. Mae Prif Weinidog Cymru, Teilo Siencyn wedi eu cael at ei gilydd i ddal bwysfilod fel y Leiac sy’n achosi anrhefn llwyr yn y wlad. Mae hon yn nofel gyffrous llawn dychymyg sy’n arwain y darllenydd i bob math o lefydd a ceir portreadau difyr o sawl tref yng Nghymru yn cynnwys Tywyn, Wrecsam ond yn arbennig Llanbedr Pont Steffan.
Mae’r gyfrol yn rhan o gyfres yr Onnen sef cyfres a nofelau i ddarllenwyr da 9-13 oed, ond bydd y nofel yn siwr o apelio at bawb sydd am fwynhau stori wreiddiol llawn antur gan un o awduron ifanc mwyaf dawnus Cymru.