CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres yr Onnen: Prism

Manon Steffan Ros

Cyfres yr Onnen: Prism

Pris arferol £5.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros

ISBN: 9781847713452 
Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 195x129 mm, 208 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma bedwaredd nofel Manon Steffan Ros yng nghyfres yr Onnen. Enillodd Trwy'r Tonnau (dilyniant i Trwy'r Darlun) wobr Tir na nOg 2010. Mae Prism yn dilyn hynt a helynt Twm a Math sy'n dianc o'u cartref ac yn mynd i deithio o amgylch Cymru, gan aros ym Mhwllheli, Aberdaron, Porthmadog, Aberystwyth, Llangrannog a Thyddewi. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2012.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Gwybodaeth Bellach:
NOFEL NEWYDD I FACHU DYCHYMYG BECHGYN

Mae nofel newydd Manon Steffan Ros, Prism, yn un a ysgrifennwyd mewn ymdrech arbennig i ddenu mwy o fechgyn ifanc i ddarllen nofelau Cymraeg. “’Dwi’n meddwl ei bod hi'n bwysig i lenyddiaeth Cymraeg gael ei ’sgwennu i hogia' yn eu harddegau,” eglura’r awdures boblogaidd, “oherwydd does ’na ddim llawer o nofelau ar eu cyfer.”

Mae’r nofel yn ymgymryd â phwnc heriol, sef y berthynas unigryw a fodolai rhwng bachgen o Gaernarfon, Twm, a’i frawd ieuengaf, Math, sy’n dioddef o anabledd emosiynol difrifol. Yn dilyn anallu tad y brodyr i ddelio ag anabledd Math, mae Twm yn penderfynu rhoi hoe i’w fam sengl, sydd am fynd i Lerpwl yn ystod gwyliau’r haf, drwy ei thwyllo a dianc â’i frawd i wersylla i gorneli Cymru.

Nid oes gan Manon brofiad personol uniongyrchol o blant sy’n dioddef o anabledd emosiynol. Fe wyddai cyn ymchwilio ar gyfer y nofel, serch hynny, pa mor wahanol gall dau frawd fod, a’r elfen amddiffynnol sydd gan bob brawd a chwaer tuag at yr ieuaf yn y nyth. Credai Manon y bydd y nofel yn apelio at oedolion yn ogystal â phlant a phobl ifanc, o ganlyniad i’r amryw haenau sy’n bodoli ym mywyd teuluol y prif gymeriadau yn sgil cyflwr emosiynol y mab ieuengaf.

Fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu’r nofel wrth weld y datblygiad ym mherthynas ei meibion ifanc ei hunan, ac o gofio’r berthynas glos a fodolai rhyngddi hi a’i chwaer, y gantores Lleuwen Steffan, ers yn ifanc. Meddai Manon: “Yn amlwg, mae'r ffaith mai dau o feibion sydd gen i yn ddylanwad ar y nofel… a phan o'n i'n tyfu, roedd fy chwaer a minnau yn agos iawn – ’da ni’n dal i fod, a dweud y gwir - ac mae o'n ddifyr i mi sut ma' gwaed yn clymu pobol wrth ei gilydd. Mae fy chwaer a ’mrawd a minnau yn wahanol iawn i’n gilydd, ac eto ’da ni'n agos iawn.”

Yn deillio o hoffter yr awdures o deithio, ysgogwyd hi i ysgrifennu am ambell un o’i hoff leoliadau yng Nghymru wrth anfon y brodyr ar daith o dros 200 milltir i lawr arfordir gorllewinol Cymru. O Gaernarfon i Bwllheli, Aberdaron i Borthmadog, traeth Tonfannau i Aberystwyth, ac yna i Langrannog cyn cyrraedd Tyddewi.

Ymhelaetha’r awdures: “Ro’n i’n awyddus i ’sgwennu rhywbeth Cymreig yn ogystal â Chymraeg - rhywbeth sy'n gysylltiedig efo’r wlad ei hun. Dyna pam ’dwi'n eu hanfon nhw i rai o’r llefydd ’dwi'n eu caru yn y wlad... Ni fydd llawer o'r bobl ifanc sy'n darllen y llyfr wedi bod yn y llefydd yma, a gall hynny eu hysgogi i ymweld â’r lleoliadau.”

Dyma bedwaredd nofel yr awdures boblogaidd ar gyfer yr arddegau – a’r nofel gorau hyd yma, yn ei thyb hi. Mae’r awdures ifanc o Bennal, ger Machynlleth, eisoes wedi ennill Gwobr Tir na n’Og 2010 am ‘Trwy’r Tonnau’, nofel arall i blant a phobl ifanc, yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl 2010 am ei nofel gyntaf i oedolion, ‘Fel Aderyn’.