CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres yr Onnen: Trwy'r Darlun

Manon Steffan Ros

Cyfres yr Onnen: Trwy'r Darlun

Pris arferol £5.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros

ISBN: 9781847710284
Dyddiad Cyhoeddi: Chwefror 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 191 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel ffantasi ddarllenadwy i blant 10-13 oed am fachgen sy'n cael ei ddenu i wlad o hud a lledrith. Awn gyda Cledwyn a Siân drwy'r darlun ac ar hyd twnnel i wlad Crug. Yno cawn gwrdd â Gili Dŵ caredig - cymeriad rhychiog a moel, byr ond hynod o gryf.

Bywgraffiad Awdur:
Dyma nofel gyntaf Manon Steffan Ros. Mae hi'n dod o Rhiwlas yn wreiddiol ond bellach yn byw yn ardal Machynlleth. Mae hi'n awdures ac yn fam llawn amser i Efan Dafydd.

Enillodd Manon y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri ac Abertawe.
Gwybodaeth Bellach:
Ydych chi'n chwilio am nofel y bydd yn anodd i chi ei gosod o'r neilltu cyn cyrraedd y dudalen olaf un?

Fyddech chi'n hoffi darllen nofel gyffrous yn llawn cymeriadau lliwgar?

Yn y nofel hon awn gyda Cledwyn a Sian drwy'r darlun ac ar hyd twnnel i wlad Crug. Yno, cawn gwrdd a Gili Dw caredig - cymeriad rhychiog a moel, byr ond hynod o gryf. Mae'n eu hachub nhw rhag y creaduriaid peryglus a chyflym, yr Abarimon. Cawn deithio o Aberdyfi i wlad y Marach, y Gwachell a'r Cnorc, sy'n llawn anturiaethau hudol.
Darllenwch dudalen 20 i gael blas!

************************************
Colli Mam yn Ysbrydoli Nofel

Mae Trwy'r Darlun wedi ei hanelu at blant 9-13 oed sy'n darllen yn hyderus a hon yw'r nofel gyntaf o wyth yng Nghyfres yr Onnen.

Cafodd Manon y syniad am y stori ar ôl genedigaeth ei mab, Efan, yn 2005. Teimlodd dristwch na fyddai ei mab byth yn dod i adnabod ei Nain, oherwydd collodd Manon ei mam i gancr yn 2003. Yn hytrach na gweld ei Nain mewn hen luniau'n unig, penderfynodd Manon lunio stori'n cynnwys ei mam fel un o'r prif gymeriadau, gan obeithio y byddai Efan yn adnabod ychydig mwy arni drwy'r stori yn y dyfodol.
Mae sawl elfen arall o fywyd yr awdures ifanc yn cael eu hadlewyrchu yn y nofel. Gwlad hudol Crug yn y stori yw ardal enedigol ei mam ym Mryncrug; mae cymeriad Cledwyn yn y nofel wedi deillio o lun o hen berthynas iddi; ac mae Manon bellach yn byw yn ardal Aberdyfi, lle mae’r prif gymeriadau’n byw.

Meddai Meinir Edwards, Golygydd Y Lolfa, "Dyma nofel ffres, llawn dychymyg. Mae Manon Steffan Ros yn awdures ifanc, newydd, gyffrous. Rwy'n siwr y clywn ni dipyn mwy amdani hi, a’i nofelau, yn y dyfodol."

Cafodd Manon gefnogaeth sawl aelod o'i theulu amryddawn yn cynnnwys ei thad Steve Eaves, ei chwaer Lleuwen Steffan, ei brawd Iwan a'i gwr Nic. Ar ôl gweithio fel actores, daeth Manon i lygad y cyhoedd ar ôl iddi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri ac Abertawe, ond bellach mae wedi troi o fyd y ddrama i fyd y nofel.
Meddai'r awdures, "Rydw i'n gobeithio sgwennu nofel i oedolion yn y dyfodol agos, a pharhau i sgwennu i blant. Mae gen i syniad am drioleg!"