CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cymanfa

T. James Jones

Cymanfa

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: T. James Jones

ISBN: 9781848518124
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Ebrill 2014
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 102 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol o gerddi a gyhoeddir i ddathlu pen-blwydd Jim Parc Nest yn bedwar ugain oed ym mis Ebrill 2014.

Bywgraffiad Awdur:
• Ganed T. James Jones yng Nghastellnewydd Emlyn ac mae’n byw bellach yng Nghaerdydd.
• Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr, yn ddarlithydd drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yn olygydd sgriptiau ’Pobol y Cwm’ (BBC).
• Coronwyd fel Bardd y Goron yn Eisteddfodau Abergwaun 1986 a Chasnewydd 1988.
• Ef hefyd oedd Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau 2007.
Mae ef bellach yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
• Bu’n Archdderwydd rhwng 2009 a 2013, o dan ei enw barddol, Jim Parc Nest, gan olynu’r diweddar Dic Jones.
• Mae’n briod â’r awdures Manon Rhys.
Gwybodaeth Bellach:
Rhaglen cymanfa Jim Parc Nest sydd rhwng y cloriau hyn. Cenir mawl i’w anwyliaid – ei deulu, ei gyfeillion a’i arwyr. Clywir hefyd ambell
nodyn beirniadol a hunanfeirniadol. Ceir canu llon a lleddf am ennill, colli, geni a marw, ac am enaid a gwareiddiad, iaith a chenedl yn goroesi.
Cyhoeddir y gyfrol hon o gerddi ar achlysur dathlu pen-blwydd Jim yn bedwar ugain oed, ac y mae ynni ac ysbryd oesol yn perthyn i’r
casgliad yn ogystal ag oes o brofiad.