CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cymru a'r Môr - Deg Mil o Flynyddoedd o Hanes y Môr

Comisiwn Brenhinol Henebion, Cymru

Cymru a'r Môr - Deg Mil o Flynyddoedd o Hanes y Môr

Pris arferol £24.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Comisiwn Brenhinol Henebion, Cymru
ISBN: 9781784615635 
Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Mark Redknap, Sian Rees, Alan Aberg
Fformat: Clawr Meddal, 270x240 mm, 348 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol uchelgeisiol, ddeniadol, llawn lliw sy'n cyflwyno holl hanes morwrol Cymru dros ddeng mil o flynyddoedd, gyda channoedd o luniau.
Gwybodaeth Bellach:
Mae darganfyddiadau archaeolegol yng Nghymru – gan gynnwys cychod o’r Oes Efydd, llongau Rhufeinig a’u llwythi, llong ganoloesol Casnewydd a’r iot frenhinol ‘Mary’ o’r ail ganrif ar bymtheg – yn tystio i hanes maith Cymru fel cenedl forwrol. Mae Cymru a’r Môr, a luniwyd gan rai o haneswyr ac archaeolegwyr mwyaf blaenllaw Cymru, yn ein hatgoffa ni o’r dreftadaeth forol hir a hynod bwysig honno.

Yn y llyfr, sy’n gyforiog o luniau, cewch yr hanes o’r cyfnod cynhanesyddol, oes y Rhufeiniaid a’r Oesoedd Canol ymlaen i gyfnodau diweddarach. Drwy ddangos mapiau o’r glannau, peintiadau o longau, morweddau, barddoniaeth, caneuon a swfeniriau poblogaidd o lan y môr, mae’n cyfleu effaith y môr ar y dychymyg artistig. Mae’r lluniau archifol o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cyfleu’n fyw oes llongau mawr y cefnfor, y llongau a fu wrthi’n gosod ceblau i gysylltu Cymru â gweddill y byd, y llongau pleser, yr iotiau rasio a’r pierau glan-môr yn ogystal â’r dociau prysur a gyflenwai lechi, glo, haearn a dur i’r byd.

Yn Cymru a’r Môr cewch ddisgrifiadau cynhwysfawr a difyr sydd wedi’u gwreiddio yn yr ysgolheictod diweddaraf, a storïau a lluniau o bob math i’n hatgoffa ni o gyfraniad allweddol bwysig y môr i gymeriad unigryw’n hanes ni fel cenedl.