CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cymru'r Gyfraith - Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol

R. Gwynedd Parry

Cymru'r Gyfraith - Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol

Pris arferol £19.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: R. Gwynedd Parry

ISBN: 9780708325148 
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Gorffennaf 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 234x156 mm, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol sydd yn trafod mewn modd difyr a darllenadwy rhai o'r pynciau mwyaf heriol a dadleuol ym myd y gyfraith yng Nghymru heddiw.

Tabl Cynnwys:
1. Y Ddeddfwrfa Gymreig
Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel gwneuthurwr cyfraith.
Y Llwybr i Ddatganoli
Cyrraedd y Nod
Deddf Llywodraeth Cymru 1998
Deddf Llywodraeth Cymru 2006
- Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Llywodraeth Cymru
Deddfwriaeth: Y Cyfnod 2006-2011
- Mesurau’r Cynulliad
- Ychwanegu at Gymhwysedd Deddfwriaethol y Cynulliad
Drafftio Deddfwriaeth
Deddfwriaeth: o 2011 ymlaen
- Comisiwn Cymru Gyfan
- Refferendwm 3 Mawrth 2011
Y Ddeddfwrfa Gymreig – Cynulliad neu Senedd?
2. Iaith Cyfiawnder
Statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg a’i defnydd o fewn y gyfundrefn gyfreithiol.
Sarhad y Deddfau Uno
Deddf Llysoedd Cymru 1942
Ymgyrchoedd yn 1960au
Agweddau Barnwrol...y 1960au
Deddf yr Iaith Gymraeg 1967
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Y Dimensiwn Rhyngwladol
Siarter Ieithoedd Ewrop
Agweddau Barnwrol – Ar ôl Datganoli
Deddfu yng Nghymru
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
- Statws Swyddogol y Gymraeg
- Comisiynydd y Gymraeg: Pencampwr y Gymraeg
- Tribiwnlys y Gymraeg
3. Rheithgorau Dwyieithog – Penbleth Geltaidd?
Pwnc penodol sydd yn amlygu’r tensiynau a’r gwrthdaro gwerthoedd o fewn awdurdodaeth unedig Cymru a Lloegr.
Cefndir
Gwasanaeth Rheithgor fel Braint Dinasyddiaeth
- Cyd-destun Hanesyddol
- Dinasyddiaeth: Y Dimensiwn Ieithyddol
- Y Profiad Gwyddelig
Safonau Ewropeaidd?
Achosion Teg a Chyfiawnder Troseddol
Rheithgorau Dwyieithog: ‘ymosodiad sylfaenol’?
Ymateb Llywodraeth Prydain
4. Ysgolheictod Cyfraith
Swyddogaeth a chyfraniad ysgolheictod cyfraith i ddatblygiad Cymru’r Gyfraith.
Dechreuadau
Cyfnod yr Ehangu
Y Cyfnod Modern a Datganoli
Wynebu’r Rhwystrau
- Economeg a Globaleiddio
- Adnoddau
- Diwylliant Ymchwil
Y cyd-destun Ewropeaidd
- Cefnogi’r egwyddor
- Hyrwyddo gweithredu
5. Yr Awdurdodaeth Gymreig
Er mwyn i Gymru aeddfedu fel democratiaeth gyflawn, gofynnir, oes angen sefydlu awdurdodaeth Gymreig?
Awdurdodaeth Lloegr...‘a Chymru’
Awdurdodaeth Gymreig?
Y Gwrthwynebiad
Cymhariaeth – Gogledd Iwerddon
Dadleuon o blaid yr Awdurdodaeth Gymreig
- Y Ddadl Gyfansoddiadol
- Dadl Effeithiolrwydd
- Y Ddadl Economaidd
- Y Ddadl ddiwylliannol-ieithyddol
Bywgraffiad Awdur:
Mae’r Athro R. Gwynedd Parry yn darlithio yn y Gyfraith a Hanes Cyfraith, ym Mhrifysgol Abertawe.
Gwybodaeth Bellach:
Mae’r gyfrol hon yn gwyntyllu’r cysyniad o hunaniaeth gyfreithiol Gymreig. Bu esblygiad y cysyniad a’i weithredu’n ymarferol yn destun trafod o fewn y gymuned gyfreithiol ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Bathwyd ymadrodd i grisialu’r broses, sef ‘Cymru’r Gyfraith’. Bu Parry yn ystyried ac yn dadansoddi rhai o’r prif bynciau sydd wedi meithrin y syniad o hunaniaeth gyfreithiol Gymreig, a’r ffactorau sydd yn ysgogi ei ddatblygiad.