CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cynan - Drama Bywyd Albert Evans Jones (1895-1970)

Y Lolfa

Cynan - Drama Bywyd Albert Evans Jones (1895-1970)

Pris arferol £19.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gerwyn Wiliams

ISBN: 9781784618469 
Dyddiad Cyhoeddi: 08 Hydref 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 250x170 mm, 512 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r cofiant cyflawn cyntaf i Albert Evans Jones - Cynan ar lafar gwlad - cymeriad a fwriodd ei ddylanwad ar Gymru am gyfnod o hanner can mlynedd. Mae'n ymdrin â sawl agwedd ar ei fywyd - fel bardd, eisteddfodwr, Cofiadur, Archdderwydd, cyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod, sensor dramâu, dramodydd, cynhyrchydd a beirniad.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Fel Cynan, un o Bwllheli yw Gerwyn Wiliams. Graddiodd mewn Cymraeg o Brifysgol Aberystwyth. Bu'n gweithio am gyfnod byr fel is-olygydd Barn cyn dod yn Ddarlithydd i Brifysgol Bangor. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth fel bardd a beirniad. Bu'n gweithio ar y prosiect hwn, ar fywyd a gwaith Cynan, ers rhyw ddeng mlynedd.


Gwybodaeth Bellach:
Mae'r penodau yn cyfateb yn gronolegol i wahanol gyfnodau ym mywyd lliwgar Cynan. Ceir hefyd ymdriniaeth fanwl o'r rhan a chwaraeodd yn ystod pum mlynedd dadleuol y cyfnod sef Arwisgiad y Tywysog Siarl yng nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Drwy'r cofiant hwn ceir drych rhannol o hanes Cymru yn ystod cyfnod ffurfiannol yn yr ugeinfed ganrif.