CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dadeni

Ifan Morgan Jones

Dadeni

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Ifan Morgan Jones

ISBN: 9781784613990
Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2017
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 214x138 mm, 336 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Mehefin 2017
Nofel ffantasi gyffrous sy'n symud o gefn gwlad Cymru i ferw'r Cynulliad yng Nghaerdydd ac i berfeddion Tŵr Llundain, wedi'i phupro â thalp go lew o ddiwylliant a hanes Cymru.
Bywgraffiad Awdur:
Daw Ifan Morgan Jones o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol ac mae bellach yn byw ym Mhenrhiw-llan ger Llandysul. Mae'n gyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen am Igam Ogam, a hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. Yn 2010 cyhoeddodd ei ail nofel, Yr Argraff Gyntaf.

Bu’n Ddirprwy Olygydd ar gylchgrawn Golwg o fis Mai 2006 hyd ddiwedd 2008, ac yn Olygydd gwefan Golwg360 rhwng Ionawr 2009 a Medi 2011. Mae bellach yn ddarlithydd yn adran Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor.
Gwybodaeth Bellach:
Mae gan yr awdur ddawn i ddweud stori dda ac mae’r stori hon yn dechrau fel thriller gan yr awdur Dan Brown wrth i dîm proffesiynol dorri i mewn i Dŵr Llundain. Ond mae’r nofel hon yn perthyn i Gymru. Lleolir hanner ohoni yng Nghaerdydd, ym merw gwleidyddiaeth y Senedd, ond ffantasi soffistigedig yw hi, wedi ei thrwytho yn niwylliant a hanes Cymru.