Awdur: Elin ap Hywel
ISBN: 9781911584360
Dyddiad Cyhoeddi: Mai 2020
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Golygwyd gan Menna Elfyn
Fformat: Clawr Caled, 183x133 mm, 104 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dyma gyfrol bwysig gan fardd rhyngwladol - y casgliad cyflawn cyntaf o goll gerddi Elin ap Hywel yn yr iaith Gymraeg. Mae ganddi lais unigryw fel bardd a themâu amlwg ei gwaith yw hanes, chwedlau, lle'r ferch yn y byd sydd ohoni a phrofiadau personol. Mae ei harddull yn delynegol ond hefyd yn bryfoclyd ac eironig ar brydiau.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Elin ap Hywel yn byw Llanilar ger Aberystwyth. Daw'n wreiddiol o Fae Colwyn a treuliodd gyfnodau'n byw yn Llundain, Ynysoedd Aran, Wrecsam, Caerdydd ac Aberystwyth. Bu’n gyfieithydd i’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ac i’r Academi Gymreig cyn mynd yn gyfieithydd llawrydd. Treuliodd gyfnod hefyd fel golygydd gyda Gwasg Honno. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Pethau Brau (Y Lolfa), yn 1982.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Elin ap Hywel wedi siarad yn agored iawn am fyw gyda dementia - rhywbeth y mae hi wedi ei brofi yn weddol ifanc a hithau ond yn ei phumdegau. Yn y cyflwyniad mae ei chyfeillion, Menna Elfyn a Beth Thomas, yn rhoi sylw i sut y mae bywyd Elin wedi newid a sut mae'r creadigrwydd hwnnw a fu unwaith yn rhan annatod o'i bywyd wedi dilyn trywydd cwbl wahanol.