John Alwyn Griffiths
Dan Ewyn y Don
Pris arferol
Pris gostyngol
£7.50
Pris Uned
/ per
Treth yn gynwysedig.
Cyfrif cludiant yn y man talu.
Awdur: John Alwyn Griffiths
ISBN: 9781845274825
Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 184x124 mm, 346 tudalen
Iaith: Cymraeg
Yn dilyn llwyddiant Dan yr Wyneb a Dan Ddylanwad, dyma drydedd nofel John Alwyn Griffiths am dref Glan Morfa a'i thrigolion. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2014.
Bywgraffiad Awdur:
Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths yn wreiddiol, a bu’n
heddwas hyd ddiwedd 2008. Cyn ymddeol roedd yn
bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru.
Cyhoeddodd ei hunangofiant, Pleserau’r Plismon, yn 2011
a’i nofel gyntaf, Dan yr Wyneb, yn 2012 a Dan Ddylanwad yn 2013.

Gwybodaeth Bellach:
Ar ôl treulio dwy flynedd ar secondiad ym Mhencadlys yr heddlu, mae’r Ditectif Jeff Evans yn ôl yn nhref Glan Morfa − a does dim llonydd i’w gael.
O fewn dyddiau i’w gilydd, mae un o gychod pysgota’r ardal yn ffrwydro yn y bae a darganfyddir corff merch ifanc ar un o lonydd gwledig yr ardal. Dwy ddamwain anffodus, tybed? Nid yn ôl greddf Jeff. Pwy sy’n berchen ar y car mawr du a welwyd o amgylch y dref? Ac a oes cysylltiad â pherchnogion anhysbys Plas y Fedwen?
Gyda chymorth yr heddferch Meira Lewis, arweinir y ditectif penderfynol ar antur gyffrous a dirgel at y gwir.
‘Dyma beth yw chwip o stori. O’r agoriad i’r clo mae’r stori’n cydio ... ac yn gwrthod gollwng gafael.’
Lyn Ebenezer, adolygiad ar Gwales.com