CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Siwan M. Rosser
ISBN: 9781786836502
Dyddiad Cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
Fformat: Clawr Meddal, 217x139 mm, 316 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae’r gyfol hon yn cynnig yr astudiaeth gyflawn gyntaf o lenyddiaeth plant yn y Gymraeg gan gynnwys dadansoddiad o’i harwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Tabl Cynnwys:
Rhagair
Rhestr o ddarluniau
ADRAN 1 Cyflwyniad i’r maes
1. Llenyddiaeth Gymraeg i blant
2. Ailafael yn yr Anrheg
ADRAN 2 1820au–1840au
3. Y plentyn arwrol
4. Y plentyn darllengar
ADRAN 3 1840au–1880au
5. Dyfeisio plentyndod
6. Delfrydau newydd
7. Ymestyn y dychymyg a’r meddwl
8. Casgliadau
Ôl-nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai
Bywgraffiad Awdur:
Mae Siwan M. Rosser yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Gwybodaeth Bellach:
• Dyma’r gyfrol gyntaf i ymdrin â hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg.
• Drwy fanylu ar ddechreuadau llenyddiaeth Gymraeg i blant, mae’r astudiaeth yn mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol a diwylliannol a greodd ystyron newydd i blant a phlentyndod yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
• Bydd yn apelio at ddarllenwyr sy’n ymddiddori mewn llenyddiaeth, hanes addysg a phlentyndod.