ISBN: 9781784618445
Dyddiad Cyhoeddi: 31 Ionawr 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Golygwyd gan James Withey, Olivia Sagan
Fformat: Clawr Meddal, 196x130 mm, 220 tudalen
Iaith: Cymraeg
Yn 2012, lansiwyd The Recovery Letters, i gyflwyno cyfres o lythyrau ar-lein gan bobl a oedd yn dod dros iselder at bobl a oedd yn dal i fod yn ei chanol hi. Addasiad Cymraeg.
Tabl Cynnwys:
Cyflwyniad: Y rheswm dros ddechrau’r Llythyrau Adferiad - James Withey
Cyflwyniad: Ysgrifennu llythyrau: therapi cynnil - Olivia Sagan
Y Llythyrau
Gair i gloi: Mae bywyd mewn llythyrau - G. Thomas Couser
Bywgraffiad Awdur:
Mae James Withey yn gyn-gwnselydd sy’n ysgrifennu ac yn siarad yn gyhoeddus am ei brofiadau ei hun o iselder ac mae’n eiriolwr dros hybu ymwybyddiaeth ac adferiad.
Pennaeth Seicoleg a Chymdeithaseg yw Olivia Sagan ym Mhrifysgol y Frenhines Margaret yng Nghaeredin. Mae’n gwnselydd, yn seicolegydd siartredig ac yn awdur.
Gwybodaeth Bellach:
Wedi’u crynhoi’n gasgliad am y tro cyntaf ar gyfer pobl sy’n byw gydag iselder, mae’r llythyrau ysbrydoledig a didwyll hyn, sy’n seiliedig ar brofiadau personol, yn cynnig gobaith a chefnogaeth ac yn tystio bod adferiad yn bosib.