Y Lolfa
Darllen yn Well: Meddylgarwch - Canllaw Ymarferol i Ganfod Heddwch Mewn Byd Gorffwyll
Awdur: Mark Williams, Danny Penman
ISBN: 9781784619572
Dyddiad Cyhoeddi: 16 Hydref 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 233x153 mm, 300 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ymarferion dyddiol syml a phwerus y gellir eu cyflwyno i fywyd er mwyn torri'r cylch gor-bryder, straen, tristwch a blinder. Yn cynnwys CD.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae’r Athro Mark Williams yn Athro Emeritws mewn Seicoleg Glinigol ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae’n un o gyd-ddatblygwyr therapi gwybyddol sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT: mindfulness-based cognitive therapy), yn gyd-awdur y llwyddiant rhyngwladol The Mindful Way Through Depression ac yn awdur Cry of Pain: Understanding suicide and the suicidal mind.
Mae Dr Danny Penman yn athro myfyrdod cymwysedig ac yn awdur a newyddiadurwr gwobrwyog. Enillodd wobrau newyddiaduraeth gan yr RSPCA a Chymdeithas Ddyngarol yr Unol Daleithiau. Yn 2014, enillodd wobr am y llyfr gorau ar Feddyginiaeth Boblogaidd gan Gymdeithas Feddygol Prydain am Mindfulness for Health: A Practical Guide to Relieving Pain, Reducing Stress and Restoring Wellbeing (wedi’i ysgrifennu ar y cyd â Vidyamala Burch). Ymhlith ei lyfrau eraill mae Mindfulness for Creativity a The Art of Breathing. Cyfieithwyd ei lyfrau i dros 30 iaith, ac mae ei waith newyddiadurol wedi ymddangos yn y New Scientist, y Daily Mail, yr Independent, y Guardian a’r Daily Telegraph. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn biocemeg.