Dauwynebog

Ceri Wyn Jones

Dauwynebog

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Ceri Wyn Jones
ISBN: 9781843238898
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Ebrill 2008
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 78 tudalen
Iaith: Cymraeg
Casgliad cyntaf o gerddi i oedolion gan y Prifardd o Aberteifi. Yn cynnwys yr awdl 'Gwaddol' a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997. Ail argraffiad; cyhoeddwyd gyntaf Hydref 2007.
Bywgraffiad Awdur:
Ganed Ceri Wyn Jones yn Welwyn Garden City, Swydd Hertford ond derbyniodd ei addysg yn Ysgolion Cynradd Cilgerran ac Aberteifi; Ysgol Uwchradd Aberteifi a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Enillodd gadair yr Eisteddfod Ryngolegol yn 1990, Cadair Eisteddfod yr Urdd ym Mro Glyndŵr yn 1992 a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meirion yn 1997.

Bu’n athro Saesneg yn Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi am dros 12 mlynedd. Treuliodd flwyddyn fel Bardd Plant Cymru rhwng 2004-5.

Yn ogystal â chyhoeddi’r gyfrol i blant Dwli o Ddifri mae hefyd wedi cyfrannu at flodeugerddi eraill ar gyfer plant, yn cynnwys Ar Hyd y Flwyddyn, Gwlad y Dreigiau a Byd Llawn Hud (enillydd Gwobr Tir na n-Og.)
Ef oedd addasydd y llyfrau stori-a-llun Barti a Bel yn Crwydro Cymru a Barti a Bel ar Goll Mewn Llyfr.
Yn 2007 enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru ar y cyd ag Einir Dafydd, gyda’r gân ‘Blwyddyn Mas’.
Mae’n golofnydd selog i Barddas a phapur newydd y Teifi-seid.

Mae’n byw yn Aberteifi gyda’i deulu, ac yn gweithio fel golygydd llyfrau Saesneg i oedolion yng Ngwasg Gomer.

Mae'n un o dîm barddoni y Taeogion, gyda Tudur Dylan Jones ac Emyr Davies.

Mae’n aelod o gorau Cywair ac Ar ôl Tri.
Gwybodaeth Bellach:
Ddeng mlynedd wedi iddo ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala, mae’r Prifardd Ceri Wyn Jones newydd gyhoeddi ei gasgliad cyntaf o gerddi i oedolion.

Cerddi cynganeddol, fwy na heb, sydd yn ei gyfrol Dauwynebog, yn amlygu ei ymlyniad angerddol at fesurau’r englyn a'r cywydd. Ac os oes rhai'n holi pam nad oes mwy o amrywiaeth o ran ffurf yn y gyfrol, ei gwestiwn syml o ateb yw ‘Sneb yn gofyn i glarinetydd pam nad yw e'n canu'r trombôn, oes e?!’

Bydd nifer o bobl am wybod hefyd pam fod Ceri wedi aros deng mlynedd ar ôl iddo ennill y gadair cyn cyhoeddi ei gyfrol gyntaf? Meddai, dan chwerthin ‘Dwi’n falch mewn ffordd mod i wedi oedi cyhyd cyn mentro…rwy wastad yn meddwl taw’r peth gorau i fi ei sgrifennu yw’r hyn dwi newydd ei wneud ac yn aml dwi’n edrych nôl ac yn cywilyddio o weld rhai o’m hen gerddi mewn print!’

Roedd y flwyddyn enillodd Ceri’r Gadair yn 1997 yn flwyddyn hanesyddol mewn sawl ffordd: refferendwm dros y Cynulliad, marwolaeth y Fam Theresa a marwolaeth Diana. Bu’r ddeng mlynedd ers hynny yn gyfnod o newid byd i Ceri yn bersonol hefyd – fe briododd, fe fagodd deulu; fe newidiodd swydd. Drwy’r cyfan oll, bu’n ymarfer ei grefft fel bardd y canu caeth.

Yn ei englyn i’r Gynghanedd, dywed y bardd:

Oherwydd nad oes mo’i thorri, na modd,
mi wn, i’w meistroli,
pan ganaf fe weithiaf i
adenydd o’i chadwyni.

Nid yw trwch y cerddi yn Dauwynebog wedi ymddangos mewn print o’r blaen – mae nifer ohonynt yn newydd sbon danlli, eraill yn fersiynau diwygiedig o gerddi a weithiwyd at ddibenion penodol. Cynhwysir hefyd rai o’r cerddi hynny mae Ceri’n eu perfformio wrth deithio’r wlad yn diddanu amrywiol gymdeithasau a chynulleidfaoedd, sy’n gerddi mwy bachog a thafod-mewn-boch yn aml.

Meddai yn y gyfrol:

Pe na bai am gynghanedd,
Y sain a’r groes a’r draws,
Fe fyddai gwneud englynion
Jyst lôds yn blydi haws!

Yn ôl Alan Llwyd yn ei adolygiad yn Barddas ‘Gwyddem yn 1997, a chyn hynny, fod llais newydd, cyffrous wedi cyrraedd. Mae’r llais hwnnw bellach wedi cyrraedd ei lawn aeddfedrwydd…Dyma waith gwir feistr, ac ni allaf gymeradwyo’r gyfrol ddigon.’