CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dianc i Ryddid - Rhyfel D. T. Davies

Gomer

Dianc i Ryddid - Rhyfel D. T. Davies

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: D. T. Davies, Ioan Wyn Evans
ISBN: 9781785620652
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Hydref 2015
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 216x140 mm, 158 tudalen
Iaith: Cymraeg
Hunangofiant dirdynnol cyn-garcharor rhyfel yn yr Ail Ryfel Byd, sef D T Davies, Dryslwyn, sir Gaerfyrddin, yn dilyn ei bererindod i Awstria am y tro cyntaf 70 mlynedd ers iddo ddianc o'r wlad. 42 o ffotograffau.
Gwybodaeth Bellach:
Mae stori DT Davies yn un anhygoel.
Yn garcharor rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd, droeon fe lwyddodd i
ddianc o grafangau'r Natsïaid.
Cipiwyd DT Davies gan y Natsïaid am y tro cyntaf ym Mrwydr Creta yng Ngwlad Groeg ym 1941. Bu'n gaeth yn Awstria am nifer o flynyddoedd mewn nifer o garchardai a gwersylloedd, gan gynnwys yr enwog Stalag 18A. Ceisiodd ddianc sawl tro, gan lwyddo yn y pendraw i ffoi dros y ffin i Hwngari. Ond, cafodd ei ddal unwaith eto, a'i yrru i wersyll Sajmište ar gyrion Belgrad. Yno fe welodd greulondeb erchyll, a bu farw 20,000 o bobl yn y gwersyll.
O'r fan honno y llwyddodd DT Davies i ddianc am y tro olaf. Ymunodd â'r Partisaniaid ac ymladd yn erbyn yr Almaenwyr yn Iwgoslafia, cyn dychwelyd adref yn 1944.
Dyma stori am oroesi, o dystio creulondeb erchyll, ac o fynnu'r hawl sylfaenol i fod yn rhydd.
Darlledwyd y rhaglen ddogfen Rhyfel DT Davies: Heb Ryddid, Heb Ddim ar S4C yn 2013 yn ei ddilyn ar bererindod yn ôl i Awstria am y tro cyntaf ers dianc o'r wlad 70 mlynedd yn ôl. Ar y daith roedd y gŵr o Ddryslwyn, Sir Gaerfyrddin yn rhannu'r hanes gyda'i feibion am y tro cyntaf erioed.
Mae'r hunangofiant anhygoel hwn yn ymhelaethu ar rai o'r profiadau soniodd DT Davies amdanynt ar y rhaglen deledu. Dyma gyfrol deimladwy a deallus fydd yn tafoli'r profiad rhyfeddol a gafodd y dyn egnïol hwn ac yn bwrw trem yn ôl dros gyfnod hanesyddol ffurfiannol diweddar.