CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: D. Geraint Lewis
ISBN: 9781785622151
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2019
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 210x150 mm, 112 tudalen
Iaith: Saesneg
Canllaw cam-wrth gam i greu brawddegau Cymraeg, gydag ymarferion a geirfa. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf ym mis Mawrth 2018.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
• Ganed D. Geraint Lewis ym mhentref glofaol Ynys-y-bwl.
• Saesneg oedd iaith y pentref a’r aelwyd ond Cymraeg oedd iaith y capel. Gadawodd Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd i ddilyn cwrs Cymraeg newydd i ddysgwyr yng Ngholeg Aberystwyth ac ar ôl ymuno â staff Llyfrgell Ceredigion dilynodd gwrs llyfrgellyddol.
• Meddai Geraint Lewis “Fel dysgwr yr oedd nifer o ddirgelion wedi fy nrysu o ran y Gymraeg ac wrth chwilio am atebion llwyddais i gynhyrchu nifer o gyfrolau geiriadurol a gramadegol.”
• Bu Geraint yn Llyfrgellydd Ceredigion, Cyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol yng Ngheredigion ac yn Ysgrifennydd Mygedol y Cyngor Llyfrau.
• Fe’i derbyniwyd i’r Orsedd ac mae’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
• Mae’n byw yn Llangwyryfon, Ceredigion gyda’i wraig Delyth.
• Mae ei ddiddordeb mewn iaith a gramadeg yn ddiarhebol ac mae ei egni’n heintus.
• Cyhoeddodd nifer o eiriaduron a llyfrau gramadeg a hefyd casgliad o garolau, caneuon gwerin a llyfr o ffeithiau unigryw.
• Cyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Oes iddo gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn 2016.