CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Dysgu Byw

Sarah Reynolds

Dysgu Byw

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Sarah Reynolds

ISBN: 9781785621550
Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2019
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 187x124 mm, 200 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel gyntaf ddoniol ac ysgafn gan awdur newydd, am hanes criw o ddysgwyr Cymraeg mewn dosbarth nos.

Bywgraffiad Awdur:
• Mae Sarah Reynolds yn byw yng Nghaerfyrddin erbyn hyn ond daw o Reigate yn Surrey yn wreiddiol.
• Mae ganddi MA mewn ysgrifennu creadigol gan Brifysgol Abertawe.
• Enillodd wobr Rhys Davies am stori fer yn 2014.
• Enillodd Sarah le ar brosiect Awduron wrth eu gwaith gyda Gŵyl y Gelli yn 2016.
• Bu Sarah yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2016.
• Gweler ei blog http://saesnesyngnghymru.com/
Gwybodaeth Bellach:
Mae Siwan yn actores. Wel, mae hi’n ‘gorffwys’ ar hyn o bryd, ac yn y cyfamser, mae hi’n ennill ei thamaid fel tiwtor Cymraeg. Dyma’i hanes hi a’i grŵp hynod amrywiol o ddysgwyr; rhai’n dda a rhai... ychydig yn wahanol i’r arfer. Ond mae mwy na gwersi iaith yn y nofel hon.

Cewch ryfeddu at hanesion nosweithiau mawr, troeon trwstan, priodas hoyw ar fferm alpacaod, blodfresychen fawreddog, tipi, plasty, tŷ bach llithrig, mousse siocled a phen-ôl enfawr yn glanio ar yr Wyddfa, ymhlith pethau anhygoel eraill...

Mae Dysgu Byw yn nofel ddoniol, fyrlymus ac ychydig bach yn cheeky. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth difyr i'w ddarllen gyda diod fach a’ch traed i fyny, rydych chi wedi dod o hyd i’ch partner perffaith.