Awdur: Sioned Wyn Roberts
ISBN: 9781913245023
Dyddiad Cyhoeddi: Ebrill 2020
Cyhoeddwr: Atebol, Aberystwyth
Darluniwyd gan Bethan Mai
Fformat: Clawr Meddal, 245x245 mm, 28 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae Ffred a'i ffwlbart yn ffrindiau gorau ond digwyddodd rhywbeth od un bore wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti - ar fy ngwir! Dyma'r stori... Dewch i gwrdd â Ffred a'i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus. Stori llawn hwyl gyda thestun sy'n odli yn seiliedig ar un o'n dywediadau Cymraeg mwyaf od!Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, mae Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Credai Sioned fod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol.