CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Filò

Siân Melangell Dafydd

Filò

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Siân Melangell Dafydd

ISBN: 9781848514218
Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2020
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 197x129 mm, 212 tudalen
Iaith: Cymraeg
 Llyfr y Mis: Mehefin 2020
Carcharorion o'r Eidal sy'n meiddio dweud eu straeon eu hunain sydd yn Filò. Mae Guido Fontana a'i gyfoedion yn darganfod cartref yng Nghymru. Ond does ganddyn nhw ddim hawliau, dim arian, dim byd, heblaw eu tafodieithoedd amrywiol, a'u straeon. Dyma yw Filò; gweithred yn erbyn y drefn, dod ynghyd ac adrodd stori.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Siân ar odre'r Berwyn. Hi yw awdur Y Trydydd Peth, enillydd y fedal Ryddiaith yn eisteddfod genedlaethol 2009 a chyd-olygydd olaf y cylchgrawn Taliesin. Mae'n gweithio ar ddoethuriaeth sy'n ymchwilio i ddefnyddio yoga ac ysgrifennu fel ymarferion cyfochrog creadigol.