CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Gemau

Mared Lewis

Gemau

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Mared Lewis

ISBN: 9781784618643
Dyddiad Cyhoeddi: Mai 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 90 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae 'Gemau' yn trafod pwnc sydd yn agos at galon yr awdur, sef dementia. Roedd aelod o'r teulu yn dioddef o'r cyflwr felly mae'n medru sgwennu o brofiad ac yn deall yr hyn mae'r cymeriadau yn y nofel yn mynd trwyddyn nhw, sef Rose, Cleif ei gŵr, a'i merch Nina.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Gwybodaeth Bellach:
Mae'r sgwennu'n ddeallus ac yn ddirdynnol ac yn adleisio cyflwr cymysglyd meddwl Rose, yn enwedig pan mae Nina yn dod yn ôl i'w bywyd. Mae'r penodau'n dechrau gyda disgrifiad o wahanol emau, sydd yn cael eu cyflwyno mewn gweithdai ar ddementia. Mae nodweddion gwahanol emau yn adlewyrchu sgiliau sydd yn dal i fod gan y person sy’n dioddef o dementia, yn hytrach na’r sgiliau mae wedi'u colli.