CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Golwg ar Grefydd

Tinopolis

Golwg ar Grefydd

Pris arferol £120.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN:  
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Medi 2014
Cyhoeddwr: Tinopolis, Llanelli
Fformat: Clawr Meddal
Iaith: Cymraeg

Pecyn o ddeunydd addysgol deniadol a chynhwysfawr yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr Addysg Grefyddol (cyfrwng Cymraeg) CA2, gan ddarparu golwg drylwyr ar ystod eang o bynciau a'u hannog i feddwl yn annibynnol. Mae'r adnodd yn cynnwys 6 llyfr cwrs, 6 llyfr gweithgaredd atodol, llawlyfr athrawon a CD-ROM.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Mae'r adnodd dwyieithog yma yn gyfres o lyfrau i gefnogi Addysg Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'n rhoi golwg drylwyr o faterion a phynciau i ddisgyblion ac yn eu hannog i feddwl yn annibynnol.
Mae'r adnodd yn cynnwys chwe llyfr dysgu, chwe llyfr gweithgareddau sydd yn cyd-fynd â llyfryn i'r athro. Mae pob adnodd yn ceisio ymateb i gwestiwn crefyddol gwahanol. O'r cwestiynau yma gall fyfyrwyr ymchwilio gwahanol safbwyntiau o chwe chrefydd; Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth, Bwdhaeth, Iddewiaeth a Sikhiaeth. Drwy ganolbwyntio ar eu dysgeidiaeth a thraddodiadau dylai ddisgyblion wedyn datblygu ymwybyddiaeth o'u harferion crefyddol yn ogystal â'u galluogi i ystyried sut mae crefydd wedi dylanwadu yn gymdeithasol, hanesyddol ac yn y byd-eang.
Mae yna nifer o weithgareddau o fewn y llyfrau sy'n galluogi plant i feddwl yn annibynnol a datblygu barn eu hun. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys gwaith unigol a gwaith grŵp sy’n cael eu cefnogi gan daflenni gwaith a ddarperir yn y llyfryn. Yn ogystal mae yna nodiadau i athrawon sy'n rhoi gwybodaeth ychwanegol am yr adnodd ac awgrymiadau ar gyfer cynlluniau gwersi.