Awdur: Peter Wynn Thomas
ISBN: 9780708313459
Dyddiad Cyhoeddi: 13 Tachwedd 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 234x154 mm, 838 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dadansoddiad gramadegol llawn a thrylwyr o'r Gymraeg sy'n ymdrin yn ogystal ag amrywiadau arddulliol yr iaith. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1996.
Gwybodaeth Bellach:
Ers cyhoeddi Elfennau Gramadeg Cymraeg yr Athro Stephen J. Williams dros 30 mlynedd yn ôl fe welodd y Gymraeg nifer o ddatblygiadau cyffrous. Yn ymarferol, fe estynnwyd y defnydd a wneir ohoni i feysydd newydd; yn ieithyddol, ehangwyd amrediad ei harddulliau; ac yn ddadansoddol, ymddangosodd nifer o astudiaethau o'i nodweddion ieithyddol. Bu hefyd gyfnewidiadau trawiadol ym methodoleg disgrifio iaith.
Ymgais yw'r llyfr gramadeg hwn i ymateb i'r datblygiadau uchod. Ar gyfer myfyrwyr adrannau Cymraeg y Brifysgol y cynlluniwyd ef, ond rhagwelir y gallai fod yn llawlyfr ymarferol ar gyfer unrhyw un sydd yn chwilio am arweiniad ar ffurfiau a phatrymau'r iaith ddiweddar.