Awdur: Alan Llwyd
ISBN: 9781784613327
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 247x167 mm, 416 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cofiant i D. Gwenallt Jones, un o feirdd disgleiriaf yr ugeinfed ganrif a oedd hefyd yn ysgolhaig a chenedlaetholwr amlwg, a hynny gan gofiannydd a luniodd gofiannau pedwar o gewri llên yr 20fed ganrif. 45 llun.
Gwybodaeth Bellach:
Cafodd Gwenallt fywyd cyffrous, dadleuol a diddorol.Fe'i magwyd mewn ardal ddiwydiannol, a bu farw ei dad pan losgwyd ef i farwolaeth gan fetel tawdd yn un o weithiau dur ac alcan Cwm Tawe.
Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, ac achosodd storm gyda'i awdl 'Y Sant' yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci ym 1928. Gwrthododd y beirniaid ei gwobrwyo oherwydd ei bod yn aflednais. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, cafodd Gwenallt ei siomi'n enbyd gan agwedd y byd academaidd tuag ato.