Awdur: Sonia Edwards
ISBN: 9781845216986
Dyddiad Cyhoeddi: 25 Chwefror 2019
Cyhoeddwr: CAA Cymru, Aberystwyth
Golygwyd gan Delyth Ifan
Fformat: Clawr Meddal, 197x130 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg
Nofel wreiddiol, afaelgar ar gyfer yr arddegau cynnar, gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru. Mae'n adrodd hanes Yvonne sy'n dechrau yn ysgol Eldra. Er bod y ddwy ferch yn wahanol iawn, mae yna debygrwydd rhyngddynt, a bydd gwirionedd eu sefyllfa yn newid eu bywydau.
Gwybodaeth Bellach:
Mae merch o’r enw Yvonne yn dechrau yn ysgol Eldra. Mae’r ddwy ferch 13 oed yn wahanol iawn, ac eto mae ’na debygrwydd ac agosatrwydd rhyngddynt. Mae gwirionedd y sefyllfa yn sioc i’r ddwy, ac yn newid eu bywydau.
* Nofel wreiddiol ar gyfer darllenwyr hŷn (12-14 oed), gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru;
* Gellir ei darllen yn annibynnol er mwyn mwynhad, neu ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 3;
* Mae pecyn digidol am ddim ar wefan Hwb, sy’n cynnwys cwestiynau i gyd-fynd â’r nofel. Bydd y nofel yn helpu dysgwyr i fwynhau darllen drwy ganfod, dethol a defnyddio gwybodaeth yn ogystal ag ymateb i’r hyn a ddarllenwyd mewn modd ysgogol – bydd hyn yn arwain at ddealltwriaeth o astudio’r nofel fel cyfrwng rhyddiaith ac yn ymateb i fanyleb newydd TGAU 2016 maes o law.