CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Hanes Atgas: Dihirod Diflas a Chymeriadau Chwithig

Catrin Stevens

Hanes Atgas: Dihirod Diflas a Chymeriadau Chwithig

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Catrin Stevens

ISBN: 9781848513785
Dyddiad Cyhoeddi: Medi 2011
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Graham Howells
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 195x129 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Ychwanegiad difyr i gyfres Hanes Atgas sy'n edrych ar bobl ddrwg a gwahanol Cymru megis Caradog y Celt, Buddug, Gwrtheyrn, Mari'r Fantell Wen, Iolo Morganwg, Gerallt Gymro, Barti Ddu, Twm Siôn Cati, Madam Wen, Siôn Cwilt, William Powell, Sgweier Glanareth, Coch Bach y Bala, Wil Elis Porthmadog, Robert Crawshay, Guto Nyth Brân, a Griffith Jones Llanddowror.

Bywgraffiad Awdur:
Cydnabyddir Catrin Stevens o Gasllwchwr, Abertawe, nid yn unig fel awdures doreithiog ond hefyd fel addysgwraig ac awdurdod ar agweddau o draddodiadau a hanes Cymru. Dehonglir y testun yn glyfar yng nghartŵnau doniol Graham Howells o Lanelli.
Gwybodaeth Bellach:
Dihirod hanes Cymru

Pwy yw dihirod mwyaf diflas a chymeriadau mwyaf chwithig Cymru? Byddai rhestr pob un ohonom yn wahanol iawn, mae’n siŵr! Ond mae hanes Cymru yn llawn o bobl ddrwg a gwahanol ac maen nhw’n llawer mwy diddorol na phobl dda, neis-neis, yn ôl yr hanesydd Catrin Stevens o Gasllwchwr. Ei dewis hi o’r cymeriadau mwyaf dychrynllyd o ddieflig ac eithriadol o eithafol welir ym mhumed teitl y gyfres arbennig Hanes Atgas a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Fel teitlau eraill y gyfres, darlunnir Hanes Atgas: Dihirod Diflas a Chymeriadau Chwithig gan Graham Howells o Lanelli, ac mae’n llwyddo i roi gwedd ysgafn ar ambell i bwnc astrus a chreulon mewn hanes gyda’i luniau a chartwnau clyfar.

Llechai môr-ladron medrus iawn o gwmpas arfordir Cymru gyda Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, Rhosili, Penrhyn Gŵyr, Solfach Sir Benfro a Rhosniegr, Ynys Môn yn llawn hanesion creulon. Yr enwocaf yn y byd i gyd oedd Barti Ddu o Gasnewydd-bach, Sir Benfro. Mewn dwy flynedd fe gipiodd Barti Ddu bedwar cant o longau, gwerth £51 miliwn i gyd, llawer ohonyn nhw’n eiddo i Sbaen, Lloegr, Ffrainc a’r Alban. Pan wrthododd capten y Porcupine, llong yn llawn caethweision, dalu arian i’w hachub, fe daniodd Barti’r llong gan losgi’r caethweision dan y dec yn eu cadwynau. Roedd gan Barti ei reolau rhyfedd – dim cweryla, rhegi na chwarae cardiau ar fwrdd y llong, dim gweithio nac ymosod ar longau ar ddydd Sul ond roedd digon o ymosod, llofruddio, llosgi a lladd ar ddiwrnodau eraill yr wythnos!

Osgoi talu tollau ar nwyddau fel brandi, tybaco, te, sidan a halen oedd nod smyglwyr syfrdanol Cymru. Yn ôl yr awdur, petai llyfrau Mr Men amdanyn nhw, byddai ganddyn nhw lysenwau.

Mr Lliwgar – Siôn Cwilt, y smyglwr mewn clogyn clytwaith lliwgar
Mr Cyfrwys – William Arthur o Benrhyn Gŵyr a guddiai brandi ar ei fferm
Mr Arswydus – Un o gang arswydus Gwrachod Llanddona, Ynys Môn
Mr Neis – Howard Marks o Fynydd Cynffig, smyglwr cyffuriau gyda 43 o enwau gwahanol er mwyn twyllo’r heddlu
Mr Clyfar a Miss Fach Fwy Clyfar – Ymgyrch Julie yn nhref Tregaron yn 1977

Caradog, Buddug, Gwrtheyrn, Mynyddog Mwynfawr – ai arweinwyr ardderchog neu arweinwyr anobeithiol oedden nhw? Drwy roi sgôr allan o ddeg am eu hymdrech a’u llwyddiant ar sail ffeithiau’r bennod, gwelir taw Caradog sy’n dod i’r brig fel yr un mwyaf llwyddiannus o’u plith. Mae hanes yn llawn storïau am bobl sydd wedi llwyddo i dwyllo pobl eraill ond ydy’r hanesion amdanyn nhw’n wir neu gau? Roedd dychymyg di-ben-draw gyda Sieffre o Fynwy, roedd Mari’r Fantell Wen yn credu ei bod wedi dyweddïo â Iesu Grist ac fe ychwanegodd Iolo Morganwg ei gerddi ei hun at rai Dafydd ap Gwilym mewn cyhoeddiad a honni taw Dafydd oedd wedi eu hysgrifennu nhw!

Ond y troseddwyr mwyaf trychinebus oll oedd y llofruddion. Yn y llyfr ceir hanesion nifer ohonyn nhw gan gynnwys William Powell, sgweier Plasty Glanareth ger Llangadog a lofruddiwyd gan griw o ddynion lleol. Wyddoch chi fod yna gysylltiad â Chymru gyda’r dihiryn enwog Murray the Hump, un o gang creulon Al Capone yn Chicago, America? Enw bedydd Murray the Hump oedd Llywelyn Morris Humphreys ac fe symudodd ei rieni draw i America o Garno, Powys.

Menywod mileinig, cymeriadau chwithig a chywilydd y caethweision yw rhai o’r penodau eraill difyr yn Hanes Atgas:Dihirod Diflas a Chymeriadau Chwithig, llyfr gwreiddiol sy’n dehongli hanes Cymru o safbwynt cwbl Gymreig. Nid plant yn unig fydd yn cael blas arno chwaith!