CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Hanes Atgas: Y Ddau Ryfel Byd Enbyd

Catrin Stevens

Hanes Atgas: Y Ddau Ryfel Byd Enbyd

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Catrin Stevens

ISBN: 9781848512962
Dyddiad Cyhoeddi: Mai 2019
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Graham Howells
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg

Byd creulon y ddau ryfel byd wedi ei ddehongli gan yr hanesydd Catrin Stevens yn y gyfres Hanes Atgas. Digon o ffeithiau ffiaidd a ffrwydrol am ymgyrchoedd ynfyd, arwyr arswydol, menywod mentrus, bwlis bril, creaduriaid cythreulig, troseddau trasig, cosbau creulon, rheolau rhyfeddol, tictactau trawiadol, ystadegau ysgytwol a dial dieflig.

Tabl Cynnwys:
Y Rhyfel Byd Cyntaf Enbyd
Dechrau yn y Dechrau – Sut i Ddenu’r Werin Wirion i’r Fyddin Fawr
A Dyma Nhw Yno – Yn Uffern ar y Ddaear
Awr Fawr y Cymry? Rhaid Cymryd y Coed
Portread Parchus o Arwr Arswydol
Trosedd a Chosb yn y Rhyfel Byd Cyntaf Enbyd
‘Nôl yng Nghymru fach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf Enbyd
A Dyna Ddiwedd y Rhyfel Mawr
O Ryfel i Ryfel

Yr Ail Ryfel Byd Enbyd
Oriel yr Eiconau Eithriadol
Fflamia Abertawe
Carcharau Cythreulig
Cyffro’r Ffrynt Cartref
Menywod yn Ystod yr Ail Ryfel Byd: Mâs o’r Gegin ‘na Nawr!
Gwael neu Gwych? Effeithiau Ffiaidd yr Ail Ryfel Byd Enbyd
Bywgraffiad Awdur:
Cydnabyddir Catrin Stevens o Gasllwchwr, Abertawe, nid yn unig fel awdures doreithiog ond hefyd fel addysg wraig ac awdurdod ar agweddau o draddodiadau a hanes Cymru. Dehonglir y testun yn glyfar yng nghartŵnau doniol Graham Howells o Lanelli.
Gwybodaeth Bellach:
Brwydro, bomio, llosgi a lladd...

Darlun erchyll o ryfel a ffeithiau am gyfraniad Cymry i’r ddau ryfel byd welir yng nghyfrol ddiweddaraf yr hanesydd Catrin Stevens o Gasllwchwr. Hanes Atgas:Y Ddau Ryfel Byd Enbyd yw pedwerydd teitl y gyfres arbennig sy’n dehongli hanes o berspectif cwbl Gymreig. Darlunnir y llyfr gan Graham Howells o Lanelli a thrwy ei luniau a’r cartwnau daw gwedd ysgafn ar ambell i bwnc astrus mewn hanes.

Nodwedd arbennig cyfres Hanes Atgas yw’r gwahanol ddulliau a ddefnyddir i gofnodi hanes. Gall gynnwys cwis, llinell amser, amserlen diwrnod, llun wedi ei labeli, poster, rysáit, stribed cartŵn, pwyntiau pwysig, deialog, baled, portread, dyddiadur neu lythyr. Ni feiddiai milwr ysgrifennu’r gwir mewn llythyr o’r ffosydd. Heb y sensor, mae’n siŵr y byddai ei lythyr yn cofnodi rhywbeth fel hyn.

‘Mae bywyd yn erchyll yma... Mae’n debyg iawn i gae tatws yma, yn stêcs ofnadwy, ond nid tatws sy’n tyfu yn y caeau yma ond coesau a phennau dynion wedi marw. Dy’n ni’n byw fel anifeiliaid mewn tyllau yn y ddaear. Ac mae’n drewi yn annioddefol yma rhwng y baw a’r llaid, y chwys, y tai bach a’r cyrff marw.’’

Bu 272,000 o Gymry yn ymladd dros Brydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf, nifer arswydus o uchel ac erbyn 1916 doedd dim llawer o ddynion yn fodlon bod yn filwyr. Felly penderfynodd y llywodraeth basio deddf i orfodi pob dyn ifanc rhwng 18 a 45 i ymuno â’r fyddin. Roedd gorfodaeth fel hyn yn amhoblogaidd iawn a dechreuodd dynion ifanc guddio i osgoi cael eu gorfodi i fod yn filwyr. Nid yw’r drefn hon yn bod bellach ym Mhrydain ond mae gorfodaeth milwrol yn dal mewn grym yn nifer o wledydd y byd heddiw.

Gan fod y Rhyfel Byd Cyntaf mor enbyd, roedd pawb yn dweud mai hwn fyddai’r rhyfel mawr olaf am byth...tan yr Ail Ryfel Byd! Abertawe ddioddefodd y blits gwaethaf yn hanes Cymru ym mis Chwefror 1941. Cafodd 56,000 o fomiau tân a 1,273 o fomiau ffrwydrol eu gollwng ar y dref gan ddinistrio ffyrdd, 15 ysgol, 171 o siopau, y farchnad, gwneud 6,500 yn ddi-gartref a lladd tua 230 ac anafu 409 o bobl.

Mae hanesion hunllefus carcharorion yr Ail Ryfel Byd yn debyg o godi gwallt eich pen. Carcharau’r Japaneaid oedd y gwaetha o bell ffordd. Bu farw David Ellis Roberts, morwr o’r Bermo o newyn gan fwyta chwyn o’r jyngl a dwyn crwyn bananas o fwyd y moch am ei fod bron â llwgu. Pe bai carcharor yn syllu ar y gardiau gormesol, byddai’n cael ei guro â chansen bambŵ ac am beidio ag ufuddhau i’r gardiau, byddai’n cael ei guro i farwolaeth. Faciwîs, bois Bevin, cuddio mewn llochesau, dogni diflas – dyna rai o’r pynciau eraill sy’n gysylltiedig â’r cyfnod.

Cafodd Rhyfel 1939-45 effaith ar y byd i gyd. Rhannwyd y byd i orllewin (America a’i ffrindiau) a dwyrain (Rwsia a’i ffrindiau). Gorfododd Rwsia holl wledydd dwyrain Ewrop i fod yn Gomiwnyddion am 40 mlynedd ac i ddial ar yr Almaen codwyd wal Berlin. Cafodd yr Iddewon wlad iddyn nhw’u hunain yn Israel a ffurfiwyd y Cenhedloedd Unedig i geisio rhwystro rhyfeloedd erchyll fel hyn eto. Datblygodd technoleg newydd a fyddai’n newid y byd: pŵer niwclear, cyfrifiaduron a’r peririant jet.

Cerdd ‘Das Ende’ (Y Diwedd) sy’n cloi’r llyfr ac meddai’r cwpled olaf
‘A dyna paham na ddylem anghofio
Dathlu heddwch, nid rhyfel, ar ‘Sul y Cofio’.

Nid llyfr i blant yn unig yw Hanes Atgas: Y Ddau Ryfel Byd Enbyd ond llyfr i oedolion hefyd sydd am wybod ffeithiau am gyfraniad Cymry i’r ddau ryfel byd.