CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Helpwch eich Plentyn/Help Your Child: Arddodiaid/Prepositions

Elin Meek

Helpwch eich Plentyn/Help Your Child: Arddodiaid/Prepositions

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Elin Meek

ISBN: 9781848513112
Dyddiad Cyhoeddi: Chwefror 2011
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Graham Howells
Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 298x210 mm, 48 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Gweithgareddau amrywiol yn ymwneud ag arddodiaid yn y gyfres Helpwch eich Plentyn. Ceir cyfieithiad o'r tasgau yn gymorth i rieni di-Gymraeg.

Another book in the 'Help Your Child' series, being an illustrated educational volume of puzzles and entertaining activities to assist children with their learning.

Gwybodaeth Bellach:
Gwella iaith gyda Dwli!

‘Dwedais i wrth ti,’ ‘Mae ci gan hi’, ‘Rhedodd Huw at fe,’ – beth sy’n gyffredin yn y rhain? Arddodiaid neu’r ffurfiau anghywir ohonyn nhw ! Gyda safon iaith plant yn fynych o dan y lach, fe fydd yna groeso mawr i lyfr gweithgareddau newydd sy’n trin a thrafod arddodiaid mewn ffordd hwyliog dros ben. Wythfed teitl y gyfres boblogaidd Helpwch eich Plentyn yw Arddodiaid a luniwyd gan Elin Meek o Abertawe. Yn fam ei hun, mae’n ymwybodol iawn o’r iaith Gymraeg a siaredir gan blant heddiw ac mae’r posau amrywiol yn ei llyfr yn fodd i dynnu sylw at y defnydd cywir o arddodiaid a sut i gyfoethogi iaith gydag idiomau cynhennid Gymraeg.

Yn tywys plant drwy’r llyfr mae draig o’r enw Dwli, creadigaeth yr arlunydd Graham Howells o Lanelli. Mewn swigen fawr o enau Dwli y daw ambell i reol iaith e.e ‘ Mae angen defnyddio ffurf wahanol ar yr arddodiad yn gyda phob rhagenw.’ Nodir esiamplau o frawddegau cywir ac anghywir fel sail i’r plentyn fwrw ymlaen gyda’r gweithgareddau sy’n dilyn. Croesair, chwilair, datrys cliwiau, ail-drefnu geiriau, llenwi bylchau – mae yna amrywiaeth o dasgau yn y llyfr hwn a bydd llawer wedi ei ddysgu mewn dim o dro!

Idiomau sy’n rhoi’r lliw ar unrhyw iaith ac mae llawer ohonyn nhw’n gysylltiedig ag arddodiaid. Ceir adrannau a gweithgareddau i gynorthwyo plant i ddefnyddio idiomau i wella eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig. Dyna chi ‘ar bigau’r drain’, ‘cyn pen dim’, ‘dan ei sang’, ‘heb os nac oni bai’, ‘i’r byw,’ ‘ mewn dim o dro,’ ‘o bwys’, ‘dros ben llestri’, ‘drwy’r trwch’.

Fel teitlau eraill y gyfres, mae yna gyfieithiadau cryno o’r cynnwys i roi esboniad pellach i’r plant neu gymorth i rieni di-Gymraeg sy’n awyddus i gefnogi addysg Gymraeg eu plant. Gyda thoreth o lyfrau gweithgareddau i blant ar y farchnad ar wahanol bwyntiau’n ymwneud â’r iaith Saesneg, mae cyfres Helpwch eich Plentyn, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, yn cynnig arlwy hwyliog i blant ar agweddau penodol o ramadeg yr iaith Gymraeg.

Mae Helpwch eich Plentyn/Help your Child: Arddodiaid/Prepositions wedi ei anelu at blant deg oed ac yn hŷn. Dyma ychwanegiad gwreiddiol a defnyddiol iawn i’r gyfres.