CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Helpwch eich Plentyn/Help Your Child: Idiomau/Idioms

Elin Meek

Helpwch eich Plentyn/Help Your Child: Idiomau/Idioms

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Elin Meek

ISBN: 9781848513792 
Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2012
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Graham Howells
Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 292x210 mm, 48 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol o bosau a gweithgareddau difyr i gynorthwyo plant 9-11 oed i ddeall idiomau Cymraeg. Fel teitlau eraill y gyfres boblogaidd, ceir cyfieithiad Saesneg o'r testun i gynorthwyo rhieni di-Gymraeg. Dyma nawfed teitl y gyfres.

Another book in the 'Help Your Child' series, being an illustrated educational volume of puzzles and entertaining activities to assist children with their learning.

Gwybodaeth Bellach:
Cyfoethogi iaith gyda Dwli!

Clywn y drafodaeth yn gyson (ac hyd syrffed) am safon iaith plant yn dirywio a safon yr iaith Gymraeg ar y radio a’r teledu. Cyfoethogir iaith gydag idiomau a phriod-ddulliau ac mae nawfed teitl y gyfres boblogaidd Helpwch eich Plentyn/Help your Child gan Elin Meek newydd ddod o’r wasg. Mae Helpwch eich plentyn: Idiomau, yn gyfrwng i gyflwyno idiomau mewn ffordd cofiadwy a hwyliog gyda’r lluniau a’r gweithgareddau yn atgyfnerthu’r dysgu. Yn fam ei hun, mae’r awdures Elin Meek o Abertawe yn ymwybodol o’r iaith a siaredir gan blant heddiw a’r angen i drysori a defnyddio idiomau cynhennid Gymraeg.

Idiomau sy’n rhoi’r lliw ar iaith ac yn y llyfr hwn maen nhw wedi’u grwpio yn ôl thêmau bras. Ceir idiomau ‘llygad a chlust’ fel yn llygad yr haul, cadw llygad barcut, yn wên o glust i glust; idiomau ‘tafod a phen’ fel rhoi pryd o dafod, siarad heb flewyn ar dafod; idiomau o’r gegin fel ers oes pys, ddim yn fêl i gyd, ennill bara menyn, halen y ddaear a llawer mwy. Beth sy’n digwydd os ydych chi’n syrthio rhwng dwy stôl neu’n codi yng nglas y dydd? Pwy yw’r cyw melyn olaf o’r teulu neu os ydy rhywbeth wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain – ble mae e? Os ydych chi fel iâr dan badell neu wedi llyncu mul, sut ydych chi’n teimlo? Os wnaethoch chi fôr a mynydd o rywbeth, beth wnaethoch chi?

Anelir y llyfr at blant tua deg oed ac mae’n llawn gweithgareddau amrywiol - croeseiriau, chwileiriau, posau i’w datrys, ail-drefnu geiriau a llawer mwy gyda Dewin y ddraig yn tywys y plant drwy’r llyfr.

Fel teitlau eraill y gyfres, ceir cyfieithiadau cryno o’r cynnwys i roi esboniad pellach i blant neu gymorth i rieni di-Gymraeg sy’n awyddus i gefnogi eu plant. Mae yna bob math o lyfrau ar y farchnad ar wahanol bwyntiau’n ymwneud â gramadeg Saesneg, ac mae cyfres Helpwch eich Plentyn, yn llenwi’r bwlch yn y Gymraeg. Dyma ychwanegiad gwreiddiol a defnyddiol iawn i’r gyfres.