CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Llanw

Manon Steffan Ros

Llanw

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros

ISBN: 9781847719232
Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 196x130 mm, 288 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Rhagfyr 2014
Mae Llanw yn byw mewn tŷ ar y traeth gyda Gorwel, ei hefaill, a'u nain. Mae chwedlau yn ffordd o fyw i'r ferch freuddwydiol hon. Ond mae'r Ail Ryfel Byd yn taflu ei gysgodion, ac mae penderfyniad Gorwel yn cael effaith andwyol ar fywyd Llanw. Nofel arall eithriadol gan awdures Blasu.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Manon yn byw yn Nhywyn ac yn dod o Rhiwlas, Gwynedd yn wreiddiol. Cafodd ei dwy nofel gyntaf dderbyniad gwych. Enillodd 'Fel Aderyn' wobr Barn y Bobl yn 2010 a 'Blasu' yn ennill gwobr ffuglen gorau’r flwyddyn yn 2013.
Gwybodaeth Bellach:
Mae teimlad hen ffasiwn i’r nofel – dim ceir na thrydan, a thrigolion Morfa yn byw oddi ar y tir a’r môr.

Un o brif themâu’r nofel fydd y chwedlau sy’n rhan o fywyd bob dydd Morfa – nid straeon ffantasi ydyn nhw, ond ffordd o fyw. Bydd rhai o’r chwedlau yn gyfarwydd, a rhai arall yn newydd sbon, ond mae’r hen ofergoelion yn cydio’n dynn ym mywydau trigolion Morfa. Does neb yn crwydro’n bell, oherwydd yr ysbrydion yn y mynyddoedd a’r bleiddiaid yn y goedwig gyfagos.