CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Llif Coch Awst

Hywel Griffiths

Llif Coch Awst

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Hywel Griffiths

ISBN: 9781911584056
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Mai 2018
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 120 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma gasgliad cynhwysfawr o gerddi'r prifardd Hywel Griffiths, yn cynnwys cerddi sy'n ymwneud â thir a daear Cymru, ei hinsawdd, ei chymunedau, ei hanes a'i chwedlau.

Bywgraffiad Awdur:
O Sir Gaerfyrddin y daw Hywel Griffiths yn wreiddiol ond mae'n byw yng Ngheredigion ers sawl blwyddyn bellach. Mae’n ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Dîm y Glêr a Thîm y Deheubarth. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn 2015, a chyn hynny, enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008. Cyhoeddodd flodeugerdd o ganu gwleidyddol, Byw Brwydr gyda Chyhoeddiadau Barddas yn 2014 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Banerog, gyda'r Lolfa yn 2009. Y mae hefyd wedi ysgrifennu nofel i bobl ifanc.