CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Máire Zepf
ISBN: 9781914079955
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Hydref 2021
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Mr Ando
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1/2
Fformat: Clawr Meddal, 250x250 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae llofft Rita’n llanast ac mae angen iddi dacluso, ac mae hi am gael robot a fydd yn gwneud y gwaith yn ei lle. Ond wedi meddwl am y llanast y gallai robot siwpyr-trefnus ei greu, yn enwedig amser bwyd, mae Rita’n penderfynu mai hi ddylai dacluso ei llofft wedi’r cyfan. Addasiad Cymraeg gan Anwen Pierce o Rita Wants a Robot.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Máire Zepf wedi ysgrifennu 12 llyfr i blant, o lyfrau lluniau i nofel penillion i oedolion ifanc. Enillydd KPMG Children’s Book of the Year, Réics Carl Award a White Raven yn 2020, mae ei llyfrau’n ymddangos mewn 8 iaith ledled y byd. Máire o Co. Down, oedd y cyntaf i ddal swydd Children’s Writing Fellow for Northern Ireland, wedi’i lleoli yn y Seamus Heaney Centre for Poetry yn QUB (2017-19).
Mae Andrew Whitson yn arlunydd arobryn ac yn frodor o Belffast sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae’n byw mewn hen dŷ sy’n swatio’n gynnil ar ochr bryn niwlog; ar ymyl coedwig hud, islaw castell swyn yng nghysgod trwyn cawr.