Atebol
Mae'r Cyfan i Ti
Awdur: Luned Aaron
ISBN: 9781913245382
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Hydref 2020
Cyhoeddwr: Atebol
Darluniwyd gan Luned Aaron
Fformat: Clawr Meddal, 281x230 mm, 28 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol annwyl a theimladwy i'w darllen cyn mynd i gysgu wrth i riant gyflwyno rhai o ryfeddodau'r byd i'w plentyn. Dilynwn y dydd o'r wawr i'r machlud wrth i ni ddarllen am ryfeddodau'r byd sydd ar gael i'r plentyn. Digwydd hyn trwy ddefnyddio'r pum synnwyr fel modd o ddangos yr ystod o brofiadau sydd i'w cael ynghanol byd natur. Cyfieithiad Saesneg o'r testun yng nghefn y llyfr.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Daw Luned Aaron o Fangor yn wreiddiol. Bellach mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’u plant. Mae hi’n arddangos ei gwaith yn aml mewn orielau ar hyd a lled Cymru, ac fe enillodd ei llyfr cyntaf i blant, ABC Byd Natur, wobr categori cynradd Tir na n-Og 2017. O ran technegau, mae Luned wrth ei bodd yn arbrofi gyda chyfryngau amrywiol, ond paent acrylig ydi ei hoff gyfrwng gan ei fod yn caniatáu iddi weithio mewn haenau sy’n cynnig naws atgofus i’r gwaith. Mae ei phaentiadau i gyd yn deillio o le cadarnhaol ac yn dathlu adegau llawen.
Gwybodaeth Bellach:
Elfennau cyfarwydd i blant Cymru sydd yma (plant y wlad a’r ddinas hefyd) - pethau fel teimlo dail yr hydref dan draed, arogli rhosod a blasu mwyar duon. Mae’r delweddau sensitif o anifeiliaid y môr, y tir a’r awyr yn rhai annwyl a hoffus ac at chwaeth plant ifanc.
Egyr y llyfr gyda sbloets o liw wrth i ni weld yr haul yn gwawrio. Erbyn y dudalen olaf, mae’r
lliwiau wedi pylu wrth iddi nosi ar derfyn y dydd.