CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Mam-gu a Fi

CAA Cymru

Mam-gu a Fi

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Jessica Shepherd
ISBN: 9781845216924
Dyddiad Cyhoeddi: 05 Gorffennaf 2018
Cyhoeddwr: CAA Cymru, Aberystwyth
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Eleri Huws
Fformat: Clawr Meddal, 250x250 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae Osian yn meddwl y byd o Mam-gu, ac mae'r ddau yn cael llawer o hwyl gyda'i gilydd. Ond pan mae Mam-gu'n dechrau cael trafferth i ofalu amdani ei hun, mae hi'n gorfod symud i fyw mewn cartref arbennig. Y llyfr stori cyntaf erioed yn y Gymraeg i drafod y cyflwr Dementia o safbwynt plentyn ifanc.
Gwybodaeth Bellach:
Y dyddiau hyn, mae mwy a mwy o blant yn cael profiad o ddementia a’r effaith mae’n ei gael ar eu teuluoedd. Yn y stori deimladwy hon, a adroddir yng ngeiriau Osian ei hun, sonnir am y profiad mewn modd positif ac ymarferol. Mae’r dudalen o ffeithiau am ddementia yn helpu plant i drafod eu teimladau ac i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fwynhau’r berthynas wahanol gyda’u hanwyliaid.
- Y llyfr stori cyntaf erioed yn y Gymraeg i drafod y cyflwr dementia o safbwynt plentyn ifanc.
- Addasiad naturiol a Chymreig ei naws gan addasydd profiadol.
- Mae’n cynnwys lluniau lliw hyfryd.