CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Mamwlad - Merched Dylanwadol Cymru

Gwasg Carreg Gwalch

Mamwlad - Merched Dylanwadol Cymru

Pris arferol £8.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781845275358
Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2016
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Golygwyd gan Beryl H. Griffiths
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 224 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yn dilyn llwyddiant Mamwlad ar S4C, dyma gyfrol sy'n rhoi golwg fanylach ar rai o'r merched herfeiddiol a beiddgar sy'n cael eu trafod yn y cyfresi. Gan dynnu ar ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, cawn bortreadau difyr o'r merched hyn fu mor ddylanwadol yn eu meysydd unigol.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Beryl Hughes Griffiths yn gyfieithydd wrth ei gwaith bob dydd ac yn byw ar fferm yng Nghwm Cynllwyd, Llanuwchllyn. Ar ôl hyfforddi yn archifydd treuliodd gyfnod yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol cyn dychwelyd adref a magu tair o ferched. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Merched Gwyllt Cymru yn 2007.
Gwybodaeth Bellach:
Mae tair cyfres Mamwlad cwmni Tinopolis ar gyfer S4C wedi rhoi sylw i rai o ferched mwyaf dylanwadol Cymru − merched sydd wedi gwneud eu marc ar hanes Cymru ond nad ydynt, ym mhob achos, wedi cael y clod a'r sylw haeddiannol. Mae'r gyfrol hon yn cyflwyno straeon hynod naw o'r merched hyn, a lwyddodd, yn erbyn disgwyliadau cymdeithas, i herio ffiniau a dilyn eu breuddwydion.
Pwrpas Mamwlad yw cofio, ac ysbrydoli. Os na wnawn ni roi'r hanesion yma ar gof a chadw nawr, sut ydyn ni'n mynd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched Cymru?
Ffion Hague
Y merched a gynhwysir yn y gyfrol yw:
Gwen John
Cranogwen
Y Chwiorydd Davies
Grace Williams
Laura Ashley
Arglwyddes Llanofer
Margaret Haig Thomas
Jennie Eirian
Betsi Cadwaladr
Yn cynnwys rhagair gan Ffion Hague