CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Modryb

Gwasg Gwynedd

Modryb

Pris arferol £6.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9780860742838
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Hydref 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Pwllheli
Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 126 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae hon yn ddilyniant i'r cyfrolau poblogaidd Nain/Mam-gu a Taid/Tad-cu, a'r tro yma cawn atgofion Tudur Owen, Angharad Tomos, Mari Emlyn, Siân Thomas, Ffion Dafis,Dylan Wyn Williams, Elin Aaron, Bethan Jones Parry, Heledd ap Gwynfor, R. Alun Evans, Cathryn Gwynn ac Efa Siôr Bowen. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys 'Cywydd o fawl i bob Anti' gan Annes Glynn.

Gwybodaeth Bellach:
Cyfrol newydd yn dathlu modrybedd o bob lliw a llun

Mae gan bawb ei hoff ‘Anti’, boed honno’n fodryb go iawn neu’n un o ffrindiau pennaf eich mam neu’ch nain y buoch yn ei galw’n Modryb neu Bodo neu Anti Rhywbeth ers cyn cof, heb feddwl am gwestiynu’r peth! Y tymor hwn, mae Gwasg Gwynedd yn dathlu’r cymeriadau hynod hyn mewn llyfr newydd sbon, gyda rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru yn siarad am eu hoff fodryb.