CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Na Ad Fi'n Angof - Byw â Dementia

Prydwen Elfed-Owens

Na Ad Fi'n Angof - Byw â Dementia

Pris arferol £8.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Prydwen Elfed-Owens

ISBN: 9781912173457 
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Medi 2020
Cyhoeddwr: Prydwen Elfed-Owens
Fformat: Clawr Meddal, 214x150 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma gyfrol sy'n rhannu profiadau unigolion sy'n gwybod beth yw byw â dementia, a hanes yr arbenigwyr a fu o gymorth iddynt.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Mae pawb ohonom, mae'n siŵr, yn adnabod rhywun sy'n byw â dementia.
Er mai cyflwr corfforol yw dementia - methiant yr ymennydd oherwydd salwch niwro-ddirywiol - yn aml iawn mae stigma ynghlwm wrth ddementia nad yw'n wir am glefydau dirywiol eraill, megis methiant y galon, er enghraifft.
Rhan o fwriad y gyfrol hon yw chwalu'r stigma hwnnw a chreu dealltwriaeth well o'r clefyd creulon hwn.
Mae'r gyfrol yn rhyw fath o hunangofiant gan yr awdur, wrth iddi dynnu ar ei phrofiad o ofalu am ei gŵr sydd â dementia. Ond y mae'n llawer mwy na hynny hefyd, oherwydd fe gawn hanes 13 o ofalwyr, sy'n rhannu eu profiad gyda ni yn y gobaith y bydd hynny o gymorth i eraill.
Bydd llawer yn gwerthfawrogi eu gonestrwydd, tra bydd eraill o bosibl yn eu beirniadu am fynd yn gyhoeddus ar faterion ddylai gael eu cadw 'rhwng pedair wal'... 'o dan y mat'. Ond bydd pawb yn gytûn, mae'n siŵr, fod yr hanesion oll yn rhai trawiadol - dirdynnol yn wir - ac y gwelwn hiwmor hefyd yn brigo i'r golwg ar adegau drwy'r cyfan.
Yn ail hanner y gyfrol cawn ysgrifau gan arbenigwyr sy'n cynnig cyngor ymarferol ar amrediad o agweddau o ystyriaethau cyfreithiol i sut i fynd ati i hunanofalu.
Nid llawlyfr ar ddementia yw'r gyfrol hon, nac ychwaith ddadansoddiad gwyddonol o'r cyflwr. Mae'r pwyslais ar rannu profiadau unigolion sy'n gwybod beth yw byw â dementia, ynghyd â chynnig cyngor ymarferol.
Dyma gyfrol anhepgor, felly, i unrhyw un sydd am glywed yn uniongyrchol gan ofalwyr a chan arbenigwyr, er mwyn eu cynorthwyo i wir ddeall y cyflwr a'i effeithiau.