CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
ISBN: 9781784618001
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Medi 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Hefin Wyn, Glen George
Fformat: Clawr Meddal, 215x141 mm, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae llythyrau Niclas y Glais at Evan Roberts ac Awena Rhun, yn ogystal â'i ysgrifau newyddiadurol, yn rhoi inni ddarlun o feddwl miniog ac o fywyd prysur o deithio, darlithio, pregethu a thynnu dannedd. Cawn gip dadlennol ar fywyd Cymru yn yr 20fed ganrif o safbwynt gwerinwr.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o ardal Crymych, Sir Benfro, yw Hefin Wyn. Ef oedd gohebydd adloniant Y Cymro yn y 70au. Mae bellach yn newyddiadurwr ar ei liwt ei hun ac yn byw gyda'i deulu ym mhentre Mot ger Maenclochog.
Gwybodaeth Bellach:
Gellir ystyried y gyfrol hon yn atodiad i'r cofiant swmpus Ar Drywydd Niclas y Glais: Comiwnydd Rhonc a Christion Gloyw gan Hefin Wyn.