CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Daniel Davies
ISBN: 9781845278021
Dyddiad Cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 200x128 mm, 222 tudalen
Iaith: Cymraeg
Nofel gomig sy'n dilyn hynt a helynt Eos Dyfed - sef y bardd Dafydd ap Gwilym, ei was, Wil, a'u cyfoedion yn yr 1340au gan ganolbwyntio ar ymdrechion carwriaethol Dafydd i ennill calon Morfudd, a pherthynas danllyd Wil a Dyddgu.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw ym Mhen-bont Rhydybeddau, ger Aberystwyth. Ymysg ei lyfrau mae Twist ar Ugain (2006), Hei-Ho! (2009), Allez Les Gallois (2016) ac Arwyr (2018).
Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn 2011, a daeth Pelé, Gerson a’r Angel (2001), Gwylliaid Glyndŵr (2007) ac Yr Eumenides (2017) yn agos i'r brig yn yr un gystadleuaeth.