Daniel Davies
Pedwaredd Rheol Anrhefn
Pris arferol
Pris gostyngol
£8.99
Pris Uned
/ per
Treth yn gynwysedig.
Cyfrif cludiant yn y man talu.
Awdur: Daniel Davies
ISBN: 9781784617165
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Mai 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 175 tudalen
Iaith: Cymraeg
Nofel gyfoes ffraeth â llinyn storïol gref. Mae'n ddilyniant i'r nofel Tair Rheol Anhrefn a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen, 2011. Ond bydd y llinyn storïol yn sefyll ar ei draed ei hun. Fe fyddwn yn ailymuno a Dr Paul Price a'i gariad, Llinos Burns wrth iddyn nhw geisio dianc rhag yr heddlu cudd a brwydro a'u cydwybod dros y cwestiwn o greu drones.
Bywgraffiad Awdur:
Enilydd Gwobr Goffa Daniel Owen, 2011. Mae Daniel Davies yn awdur profiadol sy’n adnabyddus am sgrifennu nofelau poblogaidd a darllenadwy. Mae hefyd yn newyddiadurwr sydd wedi gweithio i’r Cambrian News a’r BBC.
Cyhoeddodd nifer o nofelau, gan gynnwys Arwyr (2018), Gwylliaid Glyndŵr (2007), Hei-ho! (2009) a Pelé, Gerson a’r Angel (2011). Cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion â thro yn eu cynffon, Twist ar Ugain (2006). Mae’n byw yn Aberystwyth.

Gwybodaeth Bellach:
Mae sawl tro cyffrous yng nghorff y stori.
Gwerthodd Tair Rheol Anhrefn tua 2,500 o gopïau a derbyn adolygiadau positif iawn yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig. Mae newydd gael ei hailargraffu. ‘Pe byddai rhywun wedi awgrymu y byddai “gwibdaith ’da gynnau”, fel y cyfeiriodd Jon Gower ati, wedi rhoi cymaint o fwynhad i mi ac a wnaeth, fuaswn i ddim wedi credu’r peth,’ meddai Ian Gill.

Gwobrau:
Mae Daniel Davies yn gyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol.