CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Perthyn

Siân Northey

Perthyn

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Siân Northey

ISBN: 9781785622281
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2019
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 195x129 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel sy'n dilyn Helen a John, mam a mab. Mae gan Helen gyfrinach. Daw'r amser pan mae'n rhaid iddi rannu'r gyfrinach hon â'i mab. Canlyniad eu cyfrinach yw bod yn rhaid iddynt symud i ran arall o'r wlad bob pymtheg mlynedd gan achosi newidiadau yn eu perthynas â'i gilydd. Daw Helen i brofi cariad mewn sawl gwedd ac mae hi a'i theulu'n gorfod ymgodymu â'r gwahanu sydd ar y gorwel.

Bywgraffiad Awdur:
Er iddi, amser maith yn ôl, ennill gradd mewn Swoleg, mae Sian yn gwneud bywoliaeth fel sgwennwr llawrydd gan ysgrifennu ffuglen, ar gyfer plant ac oedolion, a barddoniaeth. Mae hefyd yn gyfieithydd ac yn cynnal gweithdai ysgrifennu o bob math gyda diddordeb arbennig yn y cyswllt rhwng llenyddiaeth ac iechyd a llesiant. Yn ddiweddar mae wedi ennill doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Perthyn yw ei thrydedd nofel ar gyfer oedolion ac yn 2018 cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion, Celwydd Oll. Mae'n byw ym Mhenrhyndeudraeth ac yn fam i dair ac yn nain i chwech.