CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Pigion y Talwrn

Ceri Wyn Jones

Pigion y Talwrn

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781906396954
Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2016
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Aberystwyth
Golygwyd gan Ceri Wyn Jones
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 208 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r gyfrol gyntaf o bigion Y Talwrn, Radio Cymru, dan olygyddiaeth y Meuryn newydd, Ceri Wyn Jones. Mae'n cynnwys y goreuon o'r pum cyfres gyntaf y bu wrth y llyw, rhwng mis Ionawr 2012 ac Awst 2016: dros dri chant a hanner o gerddi a chwpledi, a hynny gan dros gant o feirdd. Mwynhewch!

Tabl Cynnwys:
Cyflwyniad
Trydargerddi
Cwpledi
Limrigau
Cerddi caeth (Cywyddau; Hir-a-thoddeidiau; cerddi ar fesur yr Englyn Milwr)
Penillion ymson
Tribannau beddargraff
Cerddi rhydd (Telynegion;Sonedau)
Englynion
Penillion amrywiol

Bywgraffiad Awdur:
Dechreuodd Ceri Wyn yn sedd y Meuryn ym mis Ionawr 2012. Sefydlodd ei arddull ddihafal ei hun wrth lywio’r gyfres radio gan brofi ei hun yn feistr yn ei faes ac yn un y mae llawer o barch iddo. Y mae ganddo ddwy gadair (1997 a 2014) a choron (2009) hefyd, ac mae'n awdur a darlledwr ar ei liwt ei hun. Cyhoeddodd ei gyfrol o gerddi, Dauwynebog, yn 2007 yn ogystal â chyfrolau i blant; y mae’n un o golofnwyr cyson y cylchgrawn Barddas.
Gwybodaeth Bellach:
Cyfle i fwynhau unwaith eto gyfraniadau beirdd led-led Cymru sydd wedi ymddangos ar y rhaglen radio dros y pum mlynedd diwethaf. O drydargerddi i dribannau beddargraff, o limrigau i englynion, mae'r traddodiadol a'r cyfoes, y dwys a'r digri yn dod ynghyd yn y gyfrol hon.