Awdur: Rhian Cadwaladr
ISBN: 9781845277451
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 199x129 mm, 184 tudalen
Iaith: Cymraeg
Roedd Elin wedi meddwl y byddai bywyd yn haws ar ôl iddi wneud y penderfyniad i adael ei gŵr a dechrau perthynas â ffrind bore oes yn Iwerddon... ond doedd hynny ond dechrau gofidiau. Buan y mae'n darganfod nad ydi cynnal perthynas o bell a cheisio trefnu ysgariad ar yr un pryd yn fêl i gyd, a bod sawl un â'i fryd ar chwalu ei breuddwydion yn yfflon.
Bywgraffiad Awdur:
Addawodd Rhian iddi ei hun pan oedd yn ei harddegau y byddai’n sgwennu nofel rhyw ddydd. Er iddi ysgrifennu sgriptiau a sioeau i blant yn y cyfamser, roedd hi’n hanner cant cyn ysgrifennu ei nofel gyntaf, Fi sy’n cael y ci. Yn dilyn honno ysgrifennodd un arall – Môr a Mynydd. Hon yw ei thrydedd nofel.