Elliw Gwawr
Pobi
Pris arferol
Pris gostyngol
£14.95
Pris Uned
/ per
Treth yn gynwysedig.
Cyfrif cludiant yn y man talu.
Awdur: Elliw Gwawr
ISBN: 9781847719256
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Hydref 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Caled, 219x245 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg
Pobi yw ail lyfr coginio a phobi Elliw Gwawr, yn dilyn llwyddiant ei llyfr cyntaf, Paned a Chacen. Mae'n estyniad o'i blog ac yn llawn cynghorion difyr yn ogystal â ryseitiau i dynnu dŵr o'r dannedd. Cyflwynir y cyfan mewn dull hwyliog a chartrefol gan adlewyrchu personoliaeth heintus a brwdfrydig Elliw i'r dim.
Tabl Cynnwys:
Atgofion Melys
Perffaith â phaned
Pwdin i bob achlysur
Dant melys
Bara a byns
Amser dathlu
Achlysuron arbennig
Sawrus
Perffaith â phaned
Pwdin i bob achlysur
Dant melys
Bara a byns
Amser dathlu
Achlysuron arbennig
Sawrus
Gwybodaeth Bellach:
Fel ffrwyth dynes ifanc sy’n mwynhau coginio, yn hytrach na phobydd proffesiynol, bydd y ryseitiau o fewn cyrraedd i’r darllenydd. Bydd y llyfr yn llawn bwydydd mae Elliw yn eu coginio ei hun. Bydd wedi profi pob rysáit yn y gegin gartref ac yn darparu cyngor ar sut i gael y canlyniad gorau bob tro. Bydd hefyd yn esbonio rhai o’r prosesau mae llyfrau coginio fel arfer yn eu cymryd yn ganiataol. Bydd llawer mwy o ryseitiau na sydd ar y blog – o bwdinau traddodiadol a chlasurol i gacennau gwreiddiol a gwahanol – a ryseitiau sawrus.
Fel Paned a Chacen, bydd y llyfr yn drawiadol yn weledol, yn llawn lluniau lliwgar gan y ffotograffydd Warren Orchard ac wedi ei ddylunio gan Dorry Spikes er mwyn tynnu dŵr o’r dannedd. Bydd lluniau cam wrth gam i ddangos sut ddylai’r rysáit edrych trwy gydol y broses, nid ar y diwedd yn unig.
Fel Paned a Chacen, bydd y llyfr yn drawiadol yn weledol, yn llawn lluniau lliwgar gan y ffotograffydd Warren Orchard ac wedi ei ddylunio gan Dorry Spikes er mwyn tynnu dŵr o’r dannedd. Bydd lluniau cam wrth gam i ddangos sut ddylai’r rysáit edrych trwy gydol y broses, nid ar y diwedd yn unig.