Atebol
Popeth am Amrywiaeth | All About Diversity
Awdur: Felicity Brooks
ISBN: 9781801061490
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Atebol
Darluniwyd gan Mar Ferrero
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Bethan Mai Jones.
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Caled, 298x248 mm, 32 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Addasiad dwyieithog gan Bethan Mai Jones o’r llyfr All About Diversity gan Felicity Brooks. Dyma lyfr sy'n helpu plant i ddeall ac ymfalchio (nid bod yn 'oddefgar' yn unig) mewn gwahaniaethau o bob math, gan ddatblygu hunanhyder a chan hyrwyddo cymdeithas gyfartal a theg sydd, yn ei dro, yn cefnogi datblygiad, addysg a lles pob plentyn.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Dyma lyfr sy’n cynnig cyfleoedd arbennig i ddysgu a dathlu amrywiaeth o’n cwmpas. Mae’r darluniau lliwgar ac apelgar yn annog plant i archwilio a dysgu am amrywiaeth mewn ffordd hwyliog a deinamig. Mae’r llyfr yn hyrwyddo pwysigrwydd bod yn garedig ac i drin pawb yn gyfartal, beth bynnag eu siâp, maint, oedran, gallu corfforol a meddyliol, rhywedd, ethnigrwydd, credoau, iaith, diwylliant, cefndir, ac yn y blaen.
Gyda phynciau amrywiol o ddillad a cherddoriaeth a bwyd a chartrefi i wyliau a theuluoedd, mae digon i blant siarad amdano wrth iddyn nhw ddarganfod am yr hyn sy’n gwneud pobl yn wahanol a’r pethau sy’n eu gwneud yn unigryw.
Mae’r llyfr yma’n helpu plant i ddeall ac ymfalchïo (nid bod yn ‘oddefgar’ yn unig) gwahaniaethau o bob math gan ddatblygu hunanhyder ac yn hyrwyddo cymdeithas gyfartal a theg, sy’n ei dro yn cefnogi datblygiad, addysg a lles pob plentyn.