Awdur: Gareth Ffowc Roberts
ISBN: 9781848519114
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Tachwedd 2014
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 148 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mwy o bosau mathemategol i'ch diddanu gan awdur Mae Pawb yn Cyfrif. Cwestiynau hwyl at ddant pawb, i roi gwên fach ar eich wyneb pan fo pum munud sbâr. Does dim rhaid bod yn fathemategydd i'w mwynhau na'u datrys, mae'n ddigon bod gennych yr awydd i feddwl y tu hwnt i'r bocs.
Bywgraffiad Awdur:
• Yn hanu o Dreffynnon, Sir y Fflint cafodd Gareth Ffowc Roberts ei addysg yn y dref honno cyn graddio mewn Mathemateg yn Rhydychen ac ennill doethuriaeth gan Brifysgol Nottingham.
• Mae wedi arbenigo mewn addysg mathemateg gan weithio fel Ymgynghorydd Mathemateg gyda Chyngor Sir Gwynedd cyn symud i’r Coleg Normal, Bangor.
• Bu’n Brifathro’r Coleg Normal ac yna yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ac yn Athro Addysg yn y brifysgol honno.
• Mae wedi cyfrannu’n helaeth at boblogeiddio mathemateg mewn erthyglau a llyfrau ac ar y cyfryngau.
• Yn 2010 dyfarnwyd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg iddo gan yr Eisteddfod Genedlaethol am ei waith mewn mathemateg.
• Yn 2011 fe’i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro.
• Mae’n byw ym Mangor.
• Ef oedd awdur Mae Pawb yn Cyfrif a Posau Pum Munud.
• Am fwy o wybodaeth ewch i’w wefan: www.garethffowcroberts.com